Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Gwobr y Frenhines am Wasanaeth Gwirfoddol

Published: 16/06/2015

Enwebwch ar gyfer Gwobr y Frenhines ar gyfer Gwasanaeth Gwirfoddol 2016 heddiw! Gwobr y Frenhines am Wasanaeth Gwirfoddol yw’r wobr uchaf a roddir i grwpiau gwirfoddol lleol ar draws y DU i gydnabod gwaith rhagorol yn eu cymunedau. Cafodd y gwobrau eu creu yn 2002 i ddathlu Jiwbilî Aur y Frenhines. Gellir enwebu ar-lein ar http://qavs.direct.gov.uk/ a gellir dod o hyd i nodiadau cyfarwyddyd yn https://qavs.direct.gov.uk/guidance-notes. Mae mynediad am ddim ac er y gellir gwneud enwebiadau ar unrhyw adeg or flwyddyn, iw hystyried ar gyfer gwobr y flwyddyn nesaf, mae angen yr enwebiadau erbyn 18 Medi 2015.