Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cyfraddau Casglu Treth y Cyngor

Published: 17/06/2015

Mae ffigurau a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru yn dangos bod perfformiad Cyngor Sir y Fflint, gyda chefnogaeth ei drigolion, yn ardderchog wrth gasglu Treth y Cyngor. Ym mlwyddyn ariannol 2014-15, casglodd y Cyngor 97.8% o Dreth y Cyngor yn y flwyddyn yr aeth yn ddyledus, sydd 0.6% yn uwch nar cyfartaledd cenedlaethol o 97.2%. Mae hyn yn golygu mai perfformiad Sir y Fflint oedd y gorau o blith Cynghorau Gogledd Cymru ac yn y tri uchaf ar draws Cymru. Cyflawnwyd y ffigwr casglu uchel hwn ar yr un pryd ag y cynhaliwyd adolygiad o’r gostyngiad person sengl a arweiniodd at ddileu llawer o ostyngiadau, a chynyddur symiau iw casglu. Yn ogystal â chynyddu casgliadau, mae’r Cyngor yn parhau i foderneiddio a thrawsnewid y ffordd y maen gweithredu drwy ei gwneud yn haws i drigolion dalu eu biliau a chael mynediad i wasanaethau.. Gall cartrefi Sir y Fflint dalu bellach drwy ddebyd uniongyrchol wythnosol - un or ychydig gynghorau yng Nghymru sy’n cynnig cynllun talu hyblyg or fath. Wrth sôn am y cyhoeddiad, dywedodd y Cynghorydd Aaron Shotton, Arweinydd y Cyngor: “Mae Sir y Fflint yn perfformion dda ac rwyf wrth fy modd ein bod wedi cyflawni safon uchel o gasglu treth y cyngor. “Rydym ni hefyd yn cydnabod y gall rhai teuluoedd ei chael hi’n anodd talu, ac rydym nin annog unrhyw un syn cael trafferth talu i gysylltu’n syth bin â Gwasanaeth Treth y Cyngor ar 01352 704848 fel y gallwn ni ddarparu cymorth ac arweiniad ymarferol ar y ffordd orau o dalu.