Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Gweithdai am ddim i yrwyr hyn

Published: 22/06/2015

Mae cyfle i yrwyr hyn yn Sir y Fflint loywi eu sgiliau gyrru a magu hyder ymhellach drwy gymryd rhan mewn gweithdy gyrru am ddim ddydd Mawrth 30 Mehefin 2015 yn Llyfrgell Cei Connah. Mae Uned Diogelwch ar y Ffyrdd Cyngor Sir y Fflint yn cynnig sesiynau gyrru am ddim i bawb dros 65 oed, ac i’r rhai sydd am fagu mwy o hyder wrth yrru. Mae profiad gyrru’n hynod o bwysig ac, yn ôl gwaith ymchwil, mae rhai gyrwyr hyn yn osgoi sefyllfaoedd sy’n peri pryder iddynt - gall hyn gynnwys gyrru yn y nos, trefi prysur a thywydd garw, ond nid yw bob amser yn bosibl osgoi’r sefyllfaoedd hyn, yn enwedig ar ffyrdd gwledig. Un ffordd o sicrhau’ch bod yn gwella’u sgiliau gyrru, yw drwy gymryd rhan yn sesiynau gyrru Sir y Fflint sy’n DDI-DÂl i bobl dros 65 oed, ac ni fydd  unrhyw fwriad i gymryd eich trwydded yrru oddi arnoch.  Mae hyfforddwyr Gwasanaeth Asesu Symudedd a Gyrru Cymru yn cynnig awgrymiadau defnyddiol  o ran addasu’ch dull o yrru wrth ichi fynd yn hyn, gan eich helpu chi a phobl eraill ar y ffyrdd yn ddiogel, ac i’ch helpu i ddal ati i yrru. Dywedodd y Cynghorydd Bernie Attridge, y Dirprwy Arweinydd a’r Aelod Cabinet dros yr Amgylchedd: “Byddwn yn annog pobl dros 65 i fanteisio ar y cyfle hwn i gael sesiwn yrru am ddim. Wrth i ni heneiddio, mae’r ffordd rydym yn gyrru’n newid. Rydym yn hirach yn ymateb ac yn gwneud penderfyniadau a gall gyrru greu blinder a straen. Bydd rhai’n dechrau sylwi ar y newidiadau hyn yng nghanol eu pum degau. Wrth iddynt fynd yn hyn, bydd y rhan fwyaf yn parhau i yrru’n ddiogel heb ddim problemau, ond mae’n haws gwneud hynny gyda chymorth gyrrwr proffesiynol.”  I neilltuo lle, ffoniwch yr Uned Diogelwch ar y Ffyrdd ar 01352 704498.