Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Y frwydr yn erbyn y ffromlys chwarennog

Published: 24/06/2015

Mae gwirfoddolwyr yn cael eu hannog i helpu i frwydro yn erbyn ffromlys chwarennog. Ddydd Iau, 2 Gorffennaf, am 6pm bydd prosiect blynyddol rheoli ffromlys chwarennog Dyffryn Alun yn dechrau, gyda digwyddiad clirio ffromlys chwarennog yn yr Wyddgrug. Byddwn yn cyfarfod ar y cae rygbi yn Leadmills yn yr Wyddgrug, ychydig oddi ar Heol y Brenin. Dyma fydd seithfed flwyddyn y prosiect, sy’n ceisio cael gwared ar y planhigyn ymledol o Afon Alun. Diolch ir gwaith sydd wedi’i wneud hyd yma mae yna newidiadau sylweddol a chadarnhaol iw gweld ar hyd Afon Alun rhwng Llandegla ar Wyddgrug. Nid yw’r glannau bellach wedi’u dominyddu gan y ffromlys chwarennog pinc, yn hytrach mae yna amrywiaeth o weiriau brodorol, brwyn a blodau gwyllt. Dywedodd y Cyng. Bernie Attridge, Aelod Cabinet yr Amgylchedd ar Dirprwy Arweinydd: “Rydym ni’n ddiolchgar iawn ir holl wirfoddolwyr sydd wedi gwneud y prosiect yn llwyddiant, ond mae arnom angen help pawb unwaith eto eleni! Rydym ni’n chwilio am gymaint o wirfoddolwyr â phosibl i gymryd rhan a bydd y digwyddiad lansio hwn yn ffordd wych o gael blas ar yr hyn sydd angen ei wneud. “Bydd rhan gyntaf y digwyddiad ddydd Iau yn golygu torchi llewys a chlirio’r ffromlys chwarennog am awr. Wedyn bydd bwffe ar gael i wobrwyo pawb am eu gwaith caled.” Meddai Lawrence Gotts, Ceidwad Cefn Gwlad Cyngor Sir y Fflint: “Ymunwch â ni a’n helpu i ennill y frwydr yn erbyn y ffromlys chwarennog! Maer digwyddiad ar agor ir cyhoedd, ond gallwch archebu’ch lle hefyd - a fydd yn ein helpu ni i wybod faint fydd yn bresennol. Am ragor o wybodaeth, neu i archebu lle, anfonwch e-bost i loggerheads.countrypark@denbighshire.gov.uk neu ffoniwch 01352 810586/614. Dewch ag esgidiau glaw a menig! Nodiadau i Olygyddion Daethpwyd â’r ffromlys chwarennog i Ynysoedd Prydain yn 1839 o Orllewin yr Himalaia. Mae’n perthyn i’r planhigyn gwely blodau Betsan brysur ac enw arall arno yw Jac y neidiwr. Dros y blynyddoedd diwethaf, maer planhigyn pinc anfrodorol wedi lledaenun gyflym ar hyd ein hafonydd a’n nentydd. Gall dyfu hyd at ddau fetr o uchder ac nid yw fawr o ddefnydd i fywyd gwyllt brodorol, yn wir, bydd yn tagu llystyfiant eraill ar hyd glannau afonydd. Yn ystod y gaeaf bydd y planhigyn yn marw ac yn gadael glannau afonydd yn foel ac yn agored i erydu.