Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Erlyn oherwydd ci yn baeddu

Published: 14/05/2014

Mae dynes o Sir y Fflint wedi cael ei herlyn a’i dirwyo am fethu â glanhau ar ôl ei chi. Erlynwyd Mrs Jane Taylor, 47 Stryd Gaer, Shotton, gan Gyngor Sir y Fflint yn Llys y Goron, Wrecsam, ddydd Iau 8 Mai am beidio â chael gwared â baw ci a pheidio â rhoi ei manylion. Cyflawnwyd y troseddau ym Maes 33 yn Shotton ym mis Chwefror. Plediodd Mrs Taylor yn euog i’r ddwy drosedd a chafodd gyfanswm o £542.60 o ddirwy. Menter gan y Cyngor yw’r Ymgyrch Glanhau i dargedu perchnogion cwn anghyfrifol ac unrhyw un sy’n troseddu trwy daflu sbwriel, tipio’n anghyfreithlon a gosod graffiti. Dim goddefgarwch yw safiad y Cyngor ar y troseddau hyn. Mae’r rhai sy’n cael eu dal yn derbyn hysbysiad cosb benodedig o £75. Cynhelir patrolau’n gyson mewn ardaloedd eraill ar draws y sir. Meddai’r Cynghorydd Kevin Jones, Aelod o’r Cabinet dros Warchod y Cyhoedd, Gwastraff ac Ailgylchu: “Mae’r Ymgyrch Glanhau yn parhau, gan ddangos bod Cyngor Sir y Fflint yn benderfynol o lanhau’r sir. Bydd pobl sy’n cyflawni’r troseddau gwrthgymdeithasol hyn yn derbyn dirwyon a byddwn yn erlyn unrhyw un sy’n anwybyddu dirwy.” Gall pobl roi gwybod am achosion o gwn yn baeddu, am daflu sbwriel, tipio anghyfreithlon a graffiti trwy gysylltu â’r rhif 01352 701234 neu e-bostio dogfouling@flintshire.gov.uk. A wnewch chi nodi’r amser, y lle ac enwau’r troseddwyr os oes modd.