Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Gweithdy Hanes Teulu i Ddechreuwyr

Published: 30/06/2015

Cynhelir gweithdy hanes teulu i ddechreuwyr ddydd Sadwrn 18 Gorffennaf yn Archifdy Sir y Fflint, Yr Hen Reithordy, Penarlâg o 10.00am tan 1.00pm Ydych chi erioed wedi meddwl lle oedd eich hynafiaid yn byw, yn gweithio neu bler aethant ir ysgol? Bydd chwilio drwy gofnodion gwreiddiol yn eich helpu i gael cipolwg ar fywyd pob dydd Sir y Fflint yn y gorffennol. Hoffech chi olrhain hanes eich teulu drwy ddefnyddio gwefannau hanes teulu poblogaidd, Ancestry a Find My Past? Bydd staff wrth law i ddangos ystod eang o gofnodion gan gynnwys y Cyfrifiad; cofnodion genedigaethau, priodasau a marwolaethau; cofnodion plwyfi; a chofnodion Etholiadol. Byddant yn egluro sut i ddefnyddio gwybodaeth ar-lein a chanfod mwy or dogfennau gwreiddiol sydd ar gael yn yr Archifdy. Rhaid archebu lle gan fod lleoedd yn gyfynedig. Y pris yw £10 y pen. Ffon. 01244 532364 e-bost: archives@flintshire.gov.uk