Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Gwobr genedlaethol i gydnabod Gwasanaethau Cymdeithasol Sir y Fflint

Published: 29/06/2015

Mae Gwasanaethau Cymdeithasol, Blynyddoedd Cynnar a Chymorth i Deuluoedd Cyngor Sir y Fflint wedi derbyn gwobr genedlaethol. Enillodd gwasanaeth blynyddoedd cynnar a chymorth i deuluoedd y Cyngor wobr gan Gyngor Gofal Cymru yn ddiweddar o dan y categori ‘Gwell canlyniadau drwy gydweithio’. Roedd yn cydnabod y partneriaethau cryf sydd wedi’u datblygu rhwng nifer o wasanaethau a sefydliadau yn Sir y Fflint, i sicrhau fod magu plant rhagweithiol a phositif yn cael ei hyrwyddo, a bod canlyniadau negyddol i blant a phobl ifanc yn cael eu hatal. Dywedodd y beirniaid fod cryfder y berthynas rhwng yr ysgolion, y rhieni a’r Gwasanaethau Cymdeithasol, y cysylltiadau â Phrifysgol Glyndwr yn ogystal â’r dealltwriaeth go iawn o agwedd holistaidd tuag at blant gan gynyddu eu dyheadau a’u cyflawniad, wedi creu argraff fawr arnynt. Derbyniwyd y Wobr gan Ysgol Merllyn, Bagillt ar ran y Gwasanaethau Addysg ac Ieuenctid, i gydnabod y rhaglen Teuluoedd ac Ysgolion Gyda’i Gilydd. Meddai Ms T Jones, Pennaeth Ysgol Merllyn: Rwyf wrth fy modd ein bod wedi ennill yr acolad gofal cymdeithasol. Mae’n destament i’r gwaith gwerthfawr a wneir yn Ysgol Merllyn. Rwy’n falch iawn ein bod yn parhau i ddefnyddio agwedd teulu cyfan i sicrhau’r canlyniadau gorau i’n dysgwyr a bod hynny wedi cael ei gydnabod.” Yng ngwobrau Cyngor Gofal Cymru hefyd cydnabuwyd Prosiect Inspire KIM. Mae KIM yn fudiad sector gwirfoddol o Sir y Fflint sy’n cynnig gweithgareddau grwp, hyfforddiant a chymorth i bobl sy’n cael anhawster â’u hiechyd meddwl i gael gwaith. Cafodd Prosiect Inspire KIM wobr arbennig gan fod y gwobrau’n ddeg oed. Roedd y beirniaid wedi’u plesio gan y ffaith fod y prosiect yn cael ei arwain yn llawn gan y cleientiaid, ei fod yn canolbwyntio ar les a chynhwysiant cymdeithasol pobl â phroblemau iechyd meddwl ac addysg a hyfforddiant am iechyd meddwl. Mae Cyngor Sir y Fflint yn darparu cyllid i KIM a hoffai longyfarch y mudiad am y gydnabyddiaeth arbennig hon hefyd. Meddai Annie Donovan, Cyd Brif Weithredwr KIM Inspire: “Rydym yn falch dros ben o gael ein cydnabod gan y Cyngor Gofal ac yn arbennig am y wobr fawreddog hon. Diolch o galon i bawb sy’n gysylltiedig â KIM am eu holl gymorth a’u gwaith caled ac edrychwn ymlaen at fwy o ddatblygiadau yn y dyfodol”. Meddai’r Cynghorydd Chris Jones, Aelod o’r Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol: “Rwyf mor falch o’r cyflawniadau hyn i Sir y Fflint. Roedd cyrraedd y rownd derfynol a chael cydnabyddiaeth i’n gwasanaethau ar lefel genedlaethol yn wych ynddo’i hun, ond wrth gwrs, mae ennill yn rhoi boddhad mawr. “Da iawn i bawb sy’n gysylltiedig ac sy’n gweithio mor galed i gefnogi teuluoedd Sir y Fflint, hefyd diolch o galon i rieni, plant a staff Ysgol Merllyn. Mae hwn yn gynllun gwych ac mae’r wobr hon yn haeddiannol iawn. “Llongyfarchiadau hefyd i KIM, am eu cyflawniad arbennig.” Gweler manylion llawn am y gwobrau ar wefan www.ccwales.org.uk Llun Flintshire_Early_Years_room.jpg