Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Gwneud Garden City yn wyrddach

Published: 02/07/2015

Ymgynghorir â phreswylwyr ynglyn â chynlluniau i blannu coed a gwneud gwelliannau amgylcheddol eraill yn ardal Garden City. Gall pobl fynychu digwyddiad yn Nghanolfan Gymunedol St Andrews, Garden City ddydd Llun 13 Gorffennaf rhwng 1pm a 7pm i glywed mwy o fanylion am y cynigion. Mae Cyngor Sir y Fflint wedi sicrhau cyllid gwerth £200,000 gan Lywodraeth Cymru drwy’r Fframwaith Adfywio Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid i gwblhau’r gwaith. Bwriedir plannu coed a llwyni mewn lleoliadau cyhoeddus priodol, yn ogystal â newid ffensys gwael a gosod meinciau a byrddau picnic. Bydd plannu coed a gwyrchoedd hefyd yn cael ei gynnig i gartrefi preifat a thai’r cyngor os gall perchnogion tai a thenantiaid ymrwymo i’w cynnal a’u cadw yn y dyfodol. Wright Landscapes yw’r cwmni sydd wedi ennill y contract i ddarparu cynllun a gyda chynrychiolwyr o Gyngor Sir y Fflint byddant yn y digwyddiad ymgynghori i ddarparu gwybodaeth ar y mathau o goed, llwyni a phlanhigion a fydd ar gael. Meddai’r Cynghorydd Helen Brown, Aelod o’r Cabinet dros Dai: “Mae hwn yn gyfle arbennig i wella’r amgylchedd yn Garden City a gobeithiaf y bydd pobl yn mynychu’r digwyddiad ac yn manteisio ar yr hyn a fydd ar gael iddynt fel rhan o’r cynllun hwn Meddai’r Cynghorydd Derek Butler, Aelod o’r Cabinet dros Ddatblygiad Economaidd: “Rwy’n falch iawn o allu sicrhau’r cyllid ar gyfer y cynllun hwn a fydd o les i’r gymuned leol a’r amgylchedd lleol. Dywedodd y Cynghorydd Christine Jones, syn cynrychioli ward Sealand, Mae hwn yn brosiect cyffrous i ardal Garden City ac rydym yn edrych ymlaen at weithio gydar bobl leol ar ysgol leol i greu lle mwy gwyrdd.