Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Gwella diogelwch bwyd

Published: 08/07/2015

Mewn cyfarfod ddydd Mawrth 14 Gorffennaf, bydd Cabinet y Cyngor yn clywed bod diogelwch a safonau bwyd yn Sir y Fflint yn parhau i wella. Yn ystod y 12 mis diwethaf, mae Gwasanaeth Bwyd y Cyngor wedi rhagori ar nifer o’u targedau perfformiad, gan gynnwys llwyddo yn 100% o’u harchwiliadau risg uchel ar gyfer hylendid a safonau bwyd a bwyd anifeiliaid. Mae nifer y busnesau bwyd yn Sir y Fflint sy’n cydymffurfio’n gyffredinol â deddfwriaeth hylendid bwyd wedi gwella hefyd, ac wedi codi i 95.6 y cant. Mae tîm y Cyngor yn hyrwyddo’r broses o werthu a chynhyrchu bwyd sy’n addas ac yn ddiogel i’w fwyta, rheoli afiechydon a gaiff eu cludo mewn bwyd, a gweithio gyda bwytai, cwmnïau arlwyo, ffatrïoedd a chynhyrchwyr bwyd anifeiliaid i roi cyngor, gwybodaeth a chyngor iddynt.  Yn ystod y 12 mis diwethaf, rhoddwyd cyngor cynhwysfawr hefyd i fusnesau ynghylch newidiadau mewn deddfwriaeth safonau bwyd a ddaeth i rym fis Rhagfyr 2014. Cynhaliwyd nifer o weithdai drwy’r sir i esbonio gofynion newydd i labelu alergenau. Gofynnir i’r Cabinet gymeradwyo’r Cynllun Gwasanaeth Bwyd ar gyfer y flwyddyn nesaf. Mae’r Cynllun hwn yn gosod safonau diogelwch bwyd a gorfodi deddfwriaeth bwyd. Mae’r targedau allweddol yn cynnwys llwyddo yn 100% o’r archwiliadau risg uchel, gweithio gyda chynghorau eraill yn y Gogledd i wella hylendid bwyd busnesau nad ydynt yn perfformio cystal, parhau i annog busnesau i arddangos y sticeri sy’n dangos eu sgôr hylendid bwyd, a chymryd camau gorfodi yn erbyn y busnesau hynny nad ydynt yn cydymffurfio.  Dywedodd y Cynghorydd Kevin Jones, yr Aelod Cabinet dros y Strategaeth Gwastraff, Diogelu’r Cyhoedd a Hamdden: “Mae safonau bwyd yn y Sir yn cael rhan bwysig o waith ein tîm Diogelu’r Cyhoeddus ac mae’r cynllun hwn yn golygu y gallwn osod amcanion a thargedau i wella gwasanaeth rhagorol ymhellach. Mae’r tîm wedi ymrwymo i helpu busnesau i gydymffurfio â’r holl ddeddfwriaeth berthnasol, gan sicrhau cydbwysedd rhwng cynghori a gorfodi a sicrhau diogelwch a lles y cyhoedd hefyd”.