Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Disgyblion yn dylunio cinio ysgol i blant ysgolion y Sir

Published: 14/07/2015

Mae dau o ddisgyblion ysgol o Sir y Fflint wedi ennill cystadleuaeth sirol i ddylunio cinio ysgol. Trefnwyd y gystadleuaeth Dylunio Cinio Ysgol gan Wasanaeth Prydau Ysgol Sir y Fflint, i ddathlu pa mor dda yw prydau ysgol. Bydd y prydau buddugol – prif gwrs a phwdin – yn ymddangos ar y fwydlen prydau ysgol yn ystod blwyddyn academaidd 2015/16. Cafodd y cystadleuwyr eu hannog i ddylunio prif gwrs neu bwdin yn unigol. Roedd angen i’r prydau gynnwys agweddau ar y Plât Bwyta’n Iach. Roedd y gystadleuaeth ar agor i holl ddisgyblion cynradd Sir y Fflint a hynny am ddim. Cafodd pob ymgais ei asesu yn ôl enw’r rysait, nifer y ffrwythau a llysiau a oedd yn gynwysedig, pa gynhwysion a ddefnyddir a’r gost – roedd rhaid i’r prydau fod yn £2 neu lai am bob dogn. Y cystadleuwyr buddugol oedd Eben Wyn Williams, Blwyddyn 5, o Ysgol Glanrafon yr Wyddgrug, am ei Lasagne Selsig, a Sophie Williams, Blwyddyn 5 o Ysgol Derwen, Kinnerton Uchaf, am ei Sleis Gellyg a Llus. Aeth y Cynghorydd Bernie Attridge, Dirprwy Arweinydd ac Aelod o’r Cabinet dros yr Amgylchedd i gyflwyno tocyn rhodd Argos gwerth £100, a ddarparwyd gan Little Food Company, i’r ddau ddisgybl buddugol ac mae’r ddwy ysgol fuddugol wedi derbyn £500 i wella’r profiad yn ffreutur yr ysgol. Meddai’r Cynghorydd Attridge: “Roedd hwn yn gyfle gwych i’n disgyblion cynradd adael eu marc a dylunio cinio ysgol a fydd nawr ar gael, ac yn cael ei fwynhau, mewn ysgolion ledled y Sir dros y flwyddyn ysgol nesaf. Mae’n bwysig ein bod yn ennyn diddordeb plant mewn bwyd, a dangos iddynt y gall prydau iachus fod yn hwyl hefyd. Diolch yn fawr i’r plant hynny a gymerodd ran, a llongyfarchiadau arbennig i’r enillwyr, Eben a Sophie, am eu bwydlenni ysbrydoledig a chreadigol.” Lluniau Llun rhif 7550: Y Cynghorydd Attridge gydag Eben Wyn Williams, Cogydd mewn Gofal Elaine Delaney a’r Cydgysylltydd Bwyta’n Iach Laura England. Llun rhif 7563: Y Cynghorydd Attridge gyda Sophie Williams a’r Cogydd mewn Gofal Nicola Chilton a’r Cydgysylltydd Bwyta’n Iach Laura England.