Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Torri Rhedyn yng Nghastell Caergwrle

Published: 15/07/2015

Treuliodd drigolion lleol, ynghyd â Cheidwad Gwasanaeth Cefn Gwlad Sir y Fflint, Stephen Lewis a Phil Pearce o’r Gwasanaeth Rheoli Tir Ecolegol, brynhawn yn gwneud gwaith i reoli rhedyn yng Nghastell Caergwrle ddydd Sul. Cafodd y rhedyn ei falu â llaw ac offer a darparodd Phil dractor gyda ffust rhedyn trwm yn rhad ac am ddim am y dydd. Os na chaiff ei reoli, gall rhedyn dyfu a gorchuddio ardal gyfan. Mae’r ardal ar ben uchaf y castell yn weundir uchel a ddylai gynnwys glaswelltir, grug a llus. Drwy dorri coesau’r rhedyn yn flynyddol a gadael y planhigyn ynghlwm wrth ei wreiddiau gellir arafu’r tyfiant a’i wneud yn haws i’w reoli. Meddai Stephen Lewis: Diolch yn fawr i Grwp Gweithredu Cymunedol Caergwrle a’r Fro, ac i Phil Pearce am eu hymdrechion heddiw. Edrychaf ymlaen at weithio gyda’r grwp eto i fynd ati i adfywio coed bach ac ymgymryd â phrosiectau bach eraill ar y safle yn y dyfodol. Ychwanegodd Charlene Hartson, sy’n rhedeg Grwp Gweithredu Cymunedol Caergwrle a’r Fro: ‘Cawsom ddiwrnod gwych ddoe yn torri rhedyn. Mae pump ohonom yn rhedeg y grwp yn wirfodol. Rydym yn ceisio gwella Caergwrle a’r ardaloedd lleol drwy wneud prosiectau tebyg fel y digwyddiad glanhau cymunedol a gynhaliwyd ym mis Mehefin.’