Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cyrsiau diogelwch ar y ffyrdd i bobl Sir y Fflint

Published: 15/07/2015

Mae Cyngor Sir y Fflint yn hyrwyddo tri chwrs diogelwch ar y ffyrdd am ddim i bobl o bob oed yn y sir. Maer Rhaglen Gyrwyr Hyn yn rhoi asesiadau gyrru ymarferol, cyngor a gwybodaeth i yrwyr cymwys 65 oed a hyn. Ei nod yw cadw gyrwyr hyn ar y ffordd, a’u cadw’n fwy diogel am gyfnod hirach gan sicrhau bod pawb arall sy’n defnyddio’r ffordd yn ddiogel hefyd. Gall yr asesiad gyrru bara hyd at ddwy awr a Hyfforddwyr Gyrru Cymeradwy sydd wedi’u hyfforddi’n arbennig sy’n ei gynnal. Cynllun ar gyfer gyrwyr rhwng 17-25 oed syn byw yng Nghymru yw Pass Plus Cymru. Mae’n gyfle i bobl ifanc sydd newydd basio’u prawf gyrru gael gwybodaeth a phrofiad ychwanegol gwerthfawr mewn amrywiaeth eang o sefyllfaoedd ar y ffordd na fyddent, o bosibl, wedi gorfod ymdopi â nhw tra oeddent yn dysgu gyrru. Bydd dwy ran i’r cwrs, sef fforwm drafod mewn ystafell ddosbarth a hyfforddiant ymarferol ar ffyrdd gwahanol ac mewn tywydd gwahanol. Mae’r sesiwn yn yr ystafell ddosbarth yn esbonio’r canllawiau ar ddefnyddio ffonau symudol, gyrru dan ddylanwad cyffuriau ac alcohol, a’r hyn a all ddigwydd os na chedwir at y canllawiau. Cwrs i feicwyr modur a cherbydau dwy olwyn eraill yw’r trydydd cwrs, sef Bikesafe, a’i nod yw lleihau’r nifer sy’n cael eu hanafu a’u lladd yn y grwp risg uchel hwn. Cynigir y cwrs hefyd i bobl sy’n byw’r tu allan i’r ardal leol sy’n teithio’n aml ar ffyrdd Cymru. Mae pedwar o weithdai BikeSafe, pedwar o gyrsiau First Bike on the Scene a phedair o sesiynau ScooterSafe wedi’u cynllunio. Dywedodd y Cynghorydd Bernie Attridge, yr Aelod Cabinet dros yr Amgylchedd: Rwy’n annog pobl i fanteisio ar y cyrsiau hyn a fydd yn helpu i wella diogelwch ar ffyrdd y sir. Gobeithio y byddant yn annog defnyddwyr ffyrdd o bob oed i newid eu hymddygiad ac i ddod yn fwy ymwybodol o ddiogelwch ar y ffyrdd. Mae rhagor o wybodaeth ar gael gan dîm Diogelwch Ffyrdd y Cyngor ar 01352 704529 neu ar y gwefannau a ganlyn: Asesiadau i yrwyr hyn - www.siryfflint.gov.uk Pass Plus Cymru - www.dragondriver.com Bikesafe - www.bikesafe.co.uk