Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Etholiad Senedd Ewrop - sut i bleidleisio

Published: 15/05/2014

Pan fydd pleidleiswyr yn mynd i bleidleisio ddydd Iau nesaf (22 Mai), bydd gofyn iddynt fwrw pleidlais i ethol pedwar Aelod o Senedd Ewrop i gynrychioli Cymru gyfan. Bydd gan bleidleiswyr un bleidlais i’w bwrw yn unig a bydd 11 o bleidiau cofrestredig wediu rhestru ar y papur pleidleisio. Bydd yr ymgeiswyr yn cael eu hethol drwy gynrychiolaeth gyfrannol felly ni fydd pleidleiswyr yn pleidleisio dros ymgeiswyr unigol. Atgoffir pleidleiswyr i fynd âu cerdyn pleidleisio gyda nhw iw gorsaf bleidleisio ddynodedig (sydd wedi ei hargraffu ar y cerdyn) ai roi ir Swyddog Llywyddu neu un or Clercod Pleidleisio ar ddyletswydd. Hyd yn oed os bydd pleidleisiwr wedi colli’r cerdyn pleidleisio, bydd ef neu hi yn dal i fod â hawl i bleidleisio ar yr amod eu bod wedi eu cofrestru. Dylai’r marc pleidleisio fod ar ffurf croes yn y blwch wrth ymyl y blaid y maent yn dymuno pleidleisio drosti. Yna, dylai pleidleiswyr roi’r papur wedi’i farcio yn y Blwch Pleidleisio. Bydd y gorsafoedd pleidleisio ar agor o 7 am tan 10 pm. Bydd 97 ohonynt ar agor yn Sir y Fflint. Bydd pob un or 22 o ardaloedd awdurdod lleol yng Nghymru yn cynnal eu cyfrif eu hunain ddydd Sul, 25 Mai. Mae hyn oherwydd bod pleidleisio mewn rhannau o dir mawr Ewrop yn digwydd ar y diwrnod hwnnw. Pan fyddant wedi cwblhau eu cyfrif, bydd Swyddogion Canlyniadau Lleol yn hysbysur Swyddog Canlyniadau Rhanbarthol ar gyfer Cymru, Mr Bryn Parry-Jones, o ganlyniad y cyfrif yn eu hardal. Yna bydd y canlyniad ar gyfer rhanbarth etholiadol Cymru yn cael ei gyhoeddin gan Mr Parry-Jones nos Sul yng Nghanolfan Hamdden Abergwaun. Ni ellir cyhoeddi canlyniadau lleol cyn 10 pm gan mai dyma pryd y bydd y gorsafoedd pleidleisio yn cau mewn rhai rhannau o Ewrop. I gael rhagor o wybodaeth ewch i’r wefan: www.aboutmyvote.co.uk a hefyd www.siryfflint.gov.uk neu gallwch ymuno âr ddadl ar Trydar gan ddefnyddio’r hash nod #EPE14.