Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Ystafell yr Ardd yng Nghanolfan Ymwelwyr Parc Gwepra

Published: 22/07/2015

Agorwyd estyniad Canolfan Ymwelwyr Parc Gwepra a arianwyd gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri yn ddiweddar gan Is-gadeirydd Cyngor Sir y Fflint, Peter Curtis a’r Cynghorydd Gill Faulkner, Cadeirydd Cyngor Tref Cei Connah. Caiff yr estyniad newydd ei alw’n Ystafell yr Ardd ac mae’n adnodd addysgol a chymunedol mawr ei angen ar gyfer y parc a phobl leol. Mae’r ystafell yn edrych allan ar yr hen erddi ffurfiol ym Mhlas Gwepra a fydd yn cael eu hadfer i’w hen ogoniant fel rhan o’r prosiect. Bydd yr ystafell newydd yn darparu lle i addysgu a chyfarfod ar gyfer amryw o grwpiau a bydd ar gael i’w llogi. Mae’r grant gwerth £583,400 gan raglen Parciau i Bobl Cronfa Dreftadaeth y Loteri wedi arwain at greu pecyn o welliannau mawr eu hangen ar draws y parc gan gynnwys ffensys a llwybrau newydd; rhaglen o weithgareddau addysgol ar themau treftadaeth ar gyfer ymweliadau gan ysgolion; a chymorth ar gyfer grwp gwirfoddol Cyfeillion Parc Gwepra i gael hyfforddiant cadwraeth a sgiliau garddwriaethol, yn ogystal ag adfer gerddi pleser yr hen blas a gosod dehongliadau i helpu pobl leol ac ymwelwyr i archwilio hanes Parc Gerddi’r Hen Blas a Chastell Ewlo. Meddai’r Cynghorydd Bernie Attridge, Aelod o’r Cabinet dros yr Amgylchedd, “Rwyf wrth fy modd â datlygiad y cyfleuster newydd hyfryd hwn ac rwy’n siwr y bydd yn cael ei fwynhau gan nifer o bobl a bydd hefyd yn ategu at yr adnoddau eraill ardderchog sydd eisoes yn cael eu mwynhau gan ymwelwyr Parc Gwepra. Ar ôl eu hadfer, bydd y gerddi hefyd yn rhoi bywyd newydd i ran hanfodol o’r ardal hanesyddol a phoblogaidd hon o Gei Connah.” Meddai Richard Bellamy, Pennaeth Cronfa Dreftadaeth y Loteri yng Nghymru, “Rydym yn ffodus yng Nghymru fod gennym barciau cyhoeddus ardderchog. Maent yn lleoedd y gall bawb ymweld â nhw a’u mwynhau. Fodd bynnag, fel y nodir yn ein hadroddiad Cyflwr Parciau Cyhoeddus y DU, mae wedi dod i’r amlwg fod parciau cyhoeddus ledled y DU mewn perygl o doriadau ariannol. Gan hynny, rydym yn falch iawn o weld fod cyllid y Gronfa yn helpu Parc Gwepra i ddychwelyd i’w hen ogoniant, ac y bydd unwaith eto yn ased cymunedol, hanfodol i’r economi leol a iechyd a lles cyhoeddus.” Meddai Tom Woodall, Pennaeth Gwasanaeth Cefn Gwlad Sir y Fflint: “Mae’n ychwanegiad ardderchog at gyfleusterau Parc Gwepra ac edrychwn ymlaen at weld Ystafell yr Ardd yn cael ei defnyddio gan ystod eang o grwpiau. Nodyn i olygyddion: Cefndir Cronfa Dreftadaeth y Loteri: O’r archeoleg o dan ein traed i’r parciau a’r adeiladau hanesyddol yr ydym yn eu caru, o atgofion gwerthfawr a chasgliadau o fywyd gwyllt prin, rydym yn defnyddio arian chwaraewyr y Loteri Genedlaethol i helpu pobl ledled y DU i archwilio, mwynhau a gwarchod y treftadaeth y maent yn ei garu. Cronfa Dreftadaeth y Loteri yw’r cyllidwr treftadaeth ymroddedig mwyaf: · Mae’n buddsoddi tua £430 miliwn y flwyddyn ar ystod eang o brosiectau – amgueddfeydd, parciau a mannau hanesyddol ym meysydd archeoleg, yr amgylchedd naturiol a thraddodiadau diwylliannol · Mae’r Gronfa wedi cefnogi ychydig dros 38,000 o brosiectau gan ddyrannu mwy na £6.6 biliwn ledled y DU ers sefydlu’r Loteri yn 1994 · Yng Nghymru mae’r Gronfa wedi buddsoddi dros £323 miliwn a chefnogi dros 2,300 o brosiectau mewn cymunedau lleol ledled y wlad. · Edrychwch ar y wefan www.hlf.org.uk neu dilynwch y Gronfa ar Twitter @HLFCymru Mae’r rhaglen Parciau i Bobl yn defnyddio arian y Loteri i gynorthwyo gwaith adfywio, gwarchod a gwella mwynhad pobl o barciau cyhoeddus a gwarchod mynwentydd. Nod y rhaglen yw gwella’r amgylchedd lleol a rhoi parciau yn ôl wrth wraidd bywyd cymunedol. Mae’r Gronfa yn parhau i ariannu prosiectau parciau cyhoeddus yn 2015/16 gyda buddsoddiad o £34.7m. Y dyddiad cau nesaf ar gyfer ceisiadau yw 1 Medi 2015. Gweler www.hlf.org.uk am fwy o fanylion.