Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Achrediad cenedlaethol ar gyfer Archifdy Sir y Fflint

Published: 29/07/2015

Mae Dirprwy Weinidog Llywodraeth Cymru dros Ddiwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth Ken Skates wedi cyflwyno Archifdy Sir y Fflint gydai Achrediad Gwasanaeth Archifau. Dymar gwasanaeth archifau cyntaf yng Ngogledd Cymru i gyflawni’r safon proffesiynol nodedig hwn. Mae Gwasanaethau Archifau Achrededig yn sicrhau’r casgliad tymor hir, cadwraeth a hygyrchedd ein treftadaeth archif. Achrediad yw’r safon ansawdd newydd y DU syn cydnabod perfformiad da ym mhob maes o ddarparu gwasanaeth archifau. Mae cyflawni statws achrededig yn dangos bod Archifdy Sir y Fflint wedi bodloni safonau cenedlaethol a ddiffiniwyd yn glir mewn perthynas â rheolaeth a darparu adnoddau ar ofalu am ei chasgliadau unigryw ar hyn y maer gwasanaeth yn ei gynnig iw holl ystod o ddefnyddwyr. Maer Archifdy wedi darparu gwasanaeth archifau i Sir y Fflint ers y 1950au ac mae nid yn unig yn cadw archifau’r Cyngor Sir ond hefyd archifau busnesau lleol, eglwysi, ysgolion, ystadau, a llawer mwy. Roedd yn un or archifdai cynharaf i’w sefydlu yng Nghymru ac mae bob amser wedi’i nodi am ansawdd ei wasanaeth. Dywedodd y Cynghorydd Chris Bithell, Aelod Cabinet Addysg ac Ieuenctid: Rydym yn falch iawn i fod y gwasanaeth archifau cyntaf yng Ngogledd Cymru i ennill statws achrededig. Ar adeg o newid mawr mewn llywodraeth leol rydym yn falch o allu sefyll i fyny a chael ein cyfrif fel bod yn cynnal ansawdd ac ymrwymiad ir gwasanaeth a gynigwn i Sir y Fflint ac i hiliogaeth. Nododd aseswyr yr Achrediad Gwasanaeth Archifau bod perfformiad Archifdy Sir y Fflint yn dangos darpariaeth gwasanaeth cryf ym mhob maes. Wedi’u neilltuo yn arbennig ar gyfer canmoliaeth oedd: ymrwymiad y gwasanaeth i gyflawni a chadw Achrediad yn y tymor hir; y defnydd effeithiol ac wedi’i gynllunion dda o wirfoddolwyr i fwydo i mewn i ddatblygu gwasanaethau a chofnod rhagorol y gwasanaeth mewn cadwraeth, cefnogi hyfforddiant a datblygiad proffesiynol ehangach a gwneud gwelliannau rhanbarthol yn bosibl. Dywedodd Dirprwy Weinidog Llywodraeth Cymru dros Ddiwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth Ken Skates: Llongyfarchiadau i Archifdy Sir y Fflint ar fod y gwasanaeth archifau cyntaf yng Ngogledd Cymru i ennill Achrediad Gwasanaeth Archifau. Mae staff y gwasanaeth archifau yn gweithio’n eithriadol o galed i ddarparu safon uchel o ofal ar gyfer casgliadau’r archif a gwasanaeth ardderchog iw defnyddwyr. Dylent fod yn falch iawn or llwyddiant hwn.” Mae manylion am yr Archifdy iw weld ar wefan y Cyngor yn www.flintshire.gov.uk/archives NODYN I OLYGYDDION Yn y llun isod gyda’r Wobr Achredu mae (or chwith ir dde); Y Cyng. Aaron Shotton, Arweinydd Cyngor Sir y Fflint, Dirprwy Weinidog Llywodraeth Cymru dros Ddiwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth Ken Skates, Claire Harrington, Prif Archifydd ar Cyng. Kevin Jones, yr Aelod Cabinet sy’n gyfrifol am Hamdden. _FBH9806.JPG Yn y llun yn y llun isod (chwith ir dde):Colin Everett, Prif Weithredwr, Claire Harrington, Prif Archifydd, y Cyng. Kevin Jones, Aelod y Cabinet gyda chyfrifoldeb dros Hamdden, Neil Cockerton, Prif Swyddog Newid Sefydliadol, Dirprwy Weinidog Llywodraeth Cymru dros Ddiwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth Ken Skates, y Cyng. Aaron Shotton, Arweinydd Cyngor Sir y Fflint a’r Cyng. Clive Carver, aelod y ward ar gyfer Penarlâg. _FBH9787.JPG