Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Yng ngwraidd y gymuned: Cynllun Chwarae Saltney

Published: 14/08/2015

Wedi ei ariannu gan Gyngor Tref Saltney a’i gefnogi gan Wasanaethau Ieuenctid Sir y Fflint, mae Cynllun Chwarae Saltney ar fynd ers 18 mlynedd. Maer Cynllun Chwarae, sy’n cael ei gynnal o ddydd Llun 27 Gorffennaf tan ddydd Gwener 14 Awst, yn rhoi cyfle i blant 5 - 11 oed gymryd rhan mewn cystadlaethau chwaraeon, sesiynau celf a chrefft a gemau. Eleni mae yna 29 o bobl ifanc 13-23 oed wedi aberthu 3 wythnos ou gwyliau haf i wirfoddoli a helpu i gynllunio a darparur Cynllun Chwarae i sicrhau bod y plant yn cael amser da. Mae Gwasanaethau Ieuenctid Sir y Fflint wedi darparu staff ychwanegol yr haf yma ac maer holl wirfoddolwyr wedi cael crysau T i’w gwneud yn haws i bobl eu hadnabod. Dywedodd y Cyng. Chris Bithell, Aelod Cabinet Addysg ac Ieuenctid: “Maer cynllun mor lwyddiannus a phoblogaidd nes bod y plant a fynychodd flynyddoedd yn ôl yn dychwelyd fel gwirfoddolwyr. Dyma dyst i bwysigrwydd y cynllun yn y gymuned. “Bydd y gwirfoddolwyr yn derbyn profiad gwerthfawr a fydd yn eu rhoi mewn sefyllfa dda ar gyfer y byd gwaith. Bydd helpu i redeg y Cynllun Chwarae yn datblygu sgiliau gwaith tîm, cyfathrebu, datrys problemau a sgiliau gwneud penderfyniadau a fydd yn ychwanegu at eu datblygiad personol ac yn rhoi argraff dda i ddarpar gyflogwyr. Dywedodd Cynghorydd Tref Saltney, Terry Walker: “Roedd y gwirfoddolwyr ifanc yn rhan o’r gwaith o gynllunior Cynllun Chwarae ac mae annog y bobl ifanc yma i helpu i wneud penderfyniadau ar lefel leol, gobeithio, yn eu helpu i ddeall y strwythurau gwneud penderfyniadau syn effeithio ar fywydau pobl. Maen bwysig iawn bod Cyngor Tref Saltney, Gwasanaethau Ieuenctid Sir y Fflint Cyngor ar gymuned yn parhau i gydweithio i gefnogi’r cynlluniau haf hyn er budd plant a phobl ifanc.” Dywedodd Julie Thomas, Gweithiwr Ieuenctid Cymunedol: “Maer Cynllun Chwarae wedi datblygu’n fwy na phrosiect lle gall plant a phobl ifanc gael amser da. Mae wedi datblygu’n brosiect cymunedol pwysig gyda nifer o fanteision i blant a phobl ifanc yn ogystal â’r gymuned ehangach.