Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Y golau gwyrdd i gynlluniau ysgolion newydd
Published: 16/05/2014
Rhoddwyd caniatâd cynllunio i’r ysgolion cynradd ac uwchradd y bwriedir eu
hadeiladu yn Nhreffynnon a fydd yn rhannu safle’r Ysgol Uwchradd bresennol.
Bydd un ysgol gynradd newydd yn cymryd lle Ysgol Babanod Perth y Terfyn ac
Ysgol Gynradd y Fron a bydd yn derbyn dysgwyr hyd at 11 mlwydd oed. Bydd hon
ar yr un safle ag Ysgol Uwchradd newydd Treffynnon a fydd yn darparu addysg ar
gyfer rhai 11 i 16 mlwydd oed.
Bydd y datblygiad arloesol, £30 miliwn yn cael ei adeiladu ar dir ym mhendraw
cae ysgol Ysgol Uwchradd bresennol Treffynnon. Disgwylir y bydd yr ysgolion
newydd yn agor fis Medi 2016 ond bydd yr ysgolion presennol yn dal ar agor tan
hynny rhag amharu ar ddysgwyr.
Bydd gan yr ysgol uwchradd dri llawr newydd a lle i 600, unllawr fydd yr ysgol
gynradd a chyda lle i 315. Bydd plant yr ysgol gynradd a’r myfyrwyr oedran
uwchradd yn cael eu haddysgu yn yr adeiladau mwyaf diweddar gyda’r holl
adnoddau cyfrifiadurol modern i’w helpu gyda’u dysgu.
Bydd mynedfa gerbydau newydd i’r campws o Ffordd Pen-y-Maes Road a mynedfeydd
newydd i gerddwyr o Barc y Strand Park, Ffordd Pen-y-Maes Road a Rhodfa’r
Strand.
Bydd mannau chwaraeon, chwarae a hamdden newydd i’r disgyblion ar draws y safle
a bydd gan y ddwy ysgol neuaddau chwaraeon o dan do.
Mae’r adeilad a’r mannau o gwmpas wedi’u dylunio er mwyn i grwpiau cymunedol
lleol allu eu defnyddio y tu allan i oriau ysgol.
Meddai’r Cynghorydd Chris Bithell, Aelod Cabinet dros Ddysgu Gydol Oes, Cyngor
Sir y Fflint:
“Mae hon yn garreg filltir arall mewn darparu campws dysgu newydd cyffrous yn
Nhreffynnon. Bydd yn adnodd newydd, modern, rhagorol, i’r plant, y bobl ifanc
ac i’r gymuned ehangach.”
Mae’r cynlluniau llawn i’w gweld ar wefan y Cyngor a hefyd daith rithwir o’r
campws.