Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Pont Ceffylau Pwn, Caergwrle

Published: 14/08/2015

Mae Cyngor Sir y Fflint wedi cymryd camau i ddiogelu heneb hynafol a gwerthfawr sydd wedi’i fandaleiddio. Pan glywodd cynghorydd Caergwrle, Dave Healey, fod y bont ceffylau pwn wedi’i fandaleiddio, fe gysylltodd yn syth â’r tîm Strydwedd. Dywedodd: “Roedd y meini copa wedi’u tynnu a’u taflu i Afon Alun. Tynnais sylw’r tîm hefyd at y coed a oedd wedi gwreiddio yn y waliau ac yn achosi difrod strwythurol ir bont. Aeth y tîm Strydwedd ati i weithio’n gyflym iawn. Yn ystod llifogydd mawr fis Tachwedd 2000 difrodwyd pont ceffylau pwn Caergwrle. Roedd y bwâu yn llawn llaid ac roedd y coed, a oedd wedi gwreiddio yn y bont, wedi achosi iddi wanhau. Pan ddaeth y llifogydd, fe dorrodd y bont. Ar yr achlysur hwn talodd Cynulliad Cymru ac Adain Cefn Gwlad Sir y Fflint £100,000 i drwsio’r bont. Dywedodd y Cynghorydd Bernie Attridge, Aelod Cabinet yr Amgylchedd: “Mae atal yn well ac yn fwy cost-effeithiol na gwella. Rydw i’n falch ein bod wedi diogelu’r rhan bwysig hon o dreftadaeth Sir y Fflint. Codwyd y bont ceffylau pwn yng nghanol yr ail ganrif ar bymtheg ac mae hin gysylltiedig â’r Yswain Ellis Yonge o blas Bryn Iorcyn. Maen cynnwys saith bwa i leihau effaith llif Afon Alun yn ystod cyfnodau o lifogydd. Roedd pontydd ceffylau pwn fel rheol yn bontydd cul ac mae gan bont Caergwrle ddwy gilfach siâp triongl yn y waliau parapet, ar gyfer cerddwyr a fyddai’n dod i gyfarfod ceffylau pwn ar y bont. Bwriad y parapetau isel oedd caniatáu i fulod a cheffylau pwn gario sachau ar bob ochr. Maen debyg mai hon yw’r bont hynaf dros Afon Alun, ac un o enghreifftiau gorau o bontydd ceffylau pwn yng Nghymru. Gweithiodd y tîm Strydwedd yn gyflym i nôl y cerrig o’r afon au rhoi yn ôl yn eu lle. Bu iddynt dynnu’r coed a oedd yn achosi difrod strwythurol a thynnu llawer o’r chwyn a’r llaid a oedd wedi casglu o dan y bwâu. Maent hefyd wedi dadorchuddio un bwa a oedd wedi diflannun gyfan gwbl ac wedi agor sianel arall i’r dwr lifo drwyddo er mwyn atal unrhyw ddifrod pellach i’r bont oherwydd llifogydd. Ychwanegodd y Cynghorydd Healey: “Mae pobl leol yn gwerthfawrogi’r gwaith sydd wedi’i wneud ar y bont ac mae rhai wedi dweud nad ydynt erioed wedi gweld y bont yn edrych cystal. Mae Castell Caergwrle ar bont ceffylau pwn yn ddwy nodwedd werthfawr o’r dreftadaeth leol.