Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Gwella ffyrdd Sir y Fflint

Published: 21/08/2015

Bydd Cyngor Sir y Fflint yn dechrau gweithio’n fuan ar nifer o welliannau a fydd yn helpu i gynnal cyflwr y rhwydwaith priffyrdd, a aseswyd fel y rhai gorau a gynhelir yng Nghymru yn 2014. Bydd rhaglenni eleni, sydd gydai gilydd werth tua £1 miliwn, yn gweld gwelliannau i 30 o ffyrdd pellach neu rannau o ffyrdd ar draws y sir. Byddant yn cynnwys y canlynol: · Rhaglen ail-wynebu priffyrdd ar ffyrdd syn gofyn am waith atgyweirio helaeth · Rhaglen trin wyneb priffyrdd, wedi’i rhagflaenu gan waith trwsio helaeth, a fwriadwyd i wella ffyrdd gwledig yn bennaf. · Rhaglen trwsio priffyrdd a fydd yn darparu cam atgyweirio parhaol i’r ffyrdd hynny nad oes angen triniaeth ail-wynebu lawn. · Rhaglen sêl slyri troedffordd a fydd yn gwella cyflwr troedffyrdd trefol y Cynghorau ymhellach Daeth arian Benthyca Darbodus Llywodraeth Cymru ar gyfer cynnal a chadw priffyrdd i ben ym mis Mawrth, ac mae pob un or rhaglenni hyn yn cael eu hariannu gan gyllideb cynnal a chadw Priffyrdd y Cyngor. Maer rhaglenni wedi eu datblygu yn dilyn arolygiad i asesu cyflwr pob ffordd yn y Sir gan staff y Gwasanaethau Strydwedd. Mae’r arolygiadau hyn wedi sicrhau bod y ffyrdd sydd angen eu trwsio fwyaf yn cael y sylw y maent eu hangen. Fel mewn blynyddoedd blaenorol, yn ystod cyfnod y gwaith, bydd yn ofynnol cael gorchmynion a gwyriadau cau ffordd dros dro ar gyfer diogelwch y contractwyr syn gwneud y gwaith ac i ddefnyddwyr y ffordd. Bydd arwyddion yn cael eu gosod ym mhob lleoliad, yn rhoi gwybod i bobl pan fydd y gwaith i fod i ddechrau a byddai’r Cyngor yn gwerthfawrogi amynedd y cyhoedd sy’n teithio a thrigolion lleol yn ystod cyfnod y gwaith. Bydd manylion yr holl raglenni ar gael ar wefan y Cyngor yn yr wythnosau i ddod. Mae disgwyl ir holl raglenni ddechrau ym mis Medi a bydd wedi’i chwblhau erbyn y Nadolig. Dywedodd y Cynghorydd Bernie Attridge, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet dros yr Amgylchedd: “Er gwaethaf penderfyniad Llywodraeth Cymru i beidio ag ymestyn y Fenter Benthyca Darbodus, a ddarparwyd i wellar rhwydwaith priffyrdd, ar cyfyngiadau ariannol cyfredol ar y Cyngor, rydym yn falch i allu gwneud y buddsoddiad hwn yn ffyrdd Sir y Fflint, syn dangos pwysigrwydd rhwydwaith priffyrdd wedi’u cynnal ir Cyngor hwn.