Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Codi baner i ddweud ‘diolch forwyr’ ar Ddiwrnod y Llynges Fasnachol

Published: 28/08/2015

Am 10am ar Ddiwrnod y Llynges Fasnachol, 3 Medi, bydd Cyngor Sir y Fflint yn chwifio’r Lluman Coch yn Neuadd y Sir, yr Wyddgrug er mwyn codi ymwybyddiaeth o ddibyniaeth barhaus y DU ar forwyr y Llynges Fasnachol. Bydd y Dirprwy Is-gapten David Catherall yn ymuno â Chadeirydd y Cyngor, y Cynghorydd Ray Hughes, i arwain seremoni fer cyn codi’r faner. Mae Cyngor Sir y Fflint yn cefnogi galwad cenedlaethol gan elusen Seafarers UK a Chymdeithas y Llynges Fasnachol i annog chwifio baner swyddogol Llynges Fasnachol y DU ar adeiladau cyhoeddus a pholion fflagiau o bwys. Mae Llywydd yr elusen, Ei Uchelder Brenhinol Iarll Wessex, wedi cymeradwyor ymgyrch, gan ddweud: ‘Ar Ddiwrnod y Llynges Fasnachol, rwyf yn gobeithio yn fawr y byddwch yn cefnogi’r ymgyrch hon i gofio aberth, saliwtio dewrder a chefnogi dyfodol personél ein Llynges Fasnachol sy’n aml yn ddi-glod.’ Dywedodd y Cynghorydd Ray Hughes, Cadeirydd y Cyngor: ‘Rwyn falch bod Cyngor Sir y Fflint yn ymuno â sefydliadau cyhoeddus eraill ledled Cymru ar DU i gydnabod gwaith gwerthfawr y Llynges Fasnachol au cyfraniad at les y Genedl.’ Fel ‘cenedl sy’n ynys’, mae’r DU yn dibynnu ar forwyr y Llynges Fasnachol ar gyfer 95% on mewnforion, gan gynnwys hanner y bwyd rydym yn ei fwyta. Mae gan y DU y diwydiant porthladdoedd mwyaf yn Ewrop. Mae 75% on hallforion (yn ôl cyfaint) yn cael eu cludo o borthladdoedd y DU, mae rhai ohonynt yn cefnogir ymgyrch drwy annog llongau syn ymweld â hwy i ganu eu cyrn am 10am ar 3 Medi. www.merchantnavyfund.org/merchant-navy-da Nodiadau i Olygyddion Mae croeso i chi anfon ffotograffydd ir brif fynedfa yn Neuadd y Sir, yr Wyddgrug am 9.45am ddydd Iau 3 Medi 2015. Cyswllt PR Ymgyrch Genedlaethol Nick Harvey, Rheolwr Ymgyrchoedd, Seafarers UK, ffôn 020 7932 5969, ffôn symudol 07910 593588, e-bost nick.harvey@seafarers-uk.org Nodiadau i Olygyddion Mae mwy na 400 o awdurdodau lleol ledled y DU wedi eu gwahodd gan Seafarers UK a Chymdeithas y Llynges Fasnachol i gymryd rhan yn y ‘Diwrnod Chwifior Lluman Coch ar gyfer Diwrnod y Llynges Fasnachol’. Y Meistr Pasiant ar gyfer ‘Chwilio’r Lluman Coch ar gyfer Diwrnod y Llynges Fasnachol’ yw Bruno Peek LVO OBE OPR, ffôn 07737 262913, e-bost pageantmaster@mac.com Mae Diwrnod y Llynges Fasnachol wedi ei goffáu ers 2000 ar 3 Medi, pen-blwydd suddor SS Athenia, y llong fasnach Brydeinig gyntaf a gollwyd yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Mae Seafarers UK yn elusen grantiau flaenllaw syn helpu pobl yn y gymuned forwrol, trwy ddarparu cyllid hanfodol i gefnogi morwyr mewn angen au teuluoedd. Gellir rhoi rhoddion i Gronfa’r Llynges Fasnachol yr elusen yn www.merchantnavyfund.org