Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Sir y Fflint yn croesawu Taith Prydain Aviva

Published: 27/08/2015

Bydd Sir y Fflint unwaith eto yn croesawu Taith Prydain ddydd Sul 6 Medi wrth i lawer o brif feicwyr y byd rasio drwyr sir ar ddiwrnod cyntaf y digwyddiad chwaraeon mawreddog hwn. Heidiodd miloedd ar ochrau llwybr y daith trwy Sir y Fflint y llynedd ac mae’n sicr y bydd torfeydd mawr eleni eto yn dangos eu cefnogaeth ir beicwyr wrth i’r Daith fynd drwy ganol tref yr Wyddgrug, trwy Fwcle ac ymlaen i ddiwedd y cymal yn Wrecsam. Dywedodd y Cyng. Kevin Jones, yr Aelod Cabinet â chyfrifoldeb dros Hamdden, “Mae Taith Prydain Aviva yn ddigwyddiad cyffrous, proffil uchel a fydd yn cael ei ddarlledu’n fyw ar ITV1 a bydd yr uchafbwyntiau i’w gweld ar y teledu ledled y byd. Rwyf wrth fy modd y bydd hyn, ar sylw helaeth yn y wasg leol a chenedlaethol ac ar-lein, yn dod â Sir y Fflint i sylw cynulleidfa ryngwladol enfawr. “Dyma gyfle gwych i bobl leol weld y gorau o seiclo rhyngwladol ac rwyf yn siwr y bydd torfeydd mawr i fwynhau cyffro a gwefr y ras. Mae disgwyl i’r beicwyr gyrraedd ffin Sir y Fflint yng Nghadole am 14.30, a byddant yn teithio ar hyd Ffordd Rhuthun, yr A5119, i mewn i’r Wyddgrug gan orffen trwy wibio ar hyd Stryd Newydd ger Capel Bethesda. Yna bydd y ras yn parhau ar hyd Stryd Newydd ac yna’n ymuno â Ffordd Caer, yr A541, cyn dilyn Ffordd yr Wyddgrug, yr A549, drwy Fynydd Isa i Fwcle. Bydd y ras yn parhau drwy Fwcle ar yr A549 i Brook Street cyn dilyn yr A550 i’r Hôb a gadael Sir y Fflint ar hyd Ffordd Wrecsam, yr A541, am tua 15.00 o’r gloch. Bydd ffyrdd ar gau ar hyd llwybr y daith a allai arwain at oedi o tua 15-20 munud. I gael manylion llawn am Daith Prydain Aviva, gan gynnwys gwybodaeth am y timau, y beicwyr, ac amserlen y daith ewch i’r wefan http://www.tourofbritain.co.uk