Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Rhoi Cymru ar y map

Published: 09/09/2015

Mae pobl Sir y Fflint yn cael eu gwahodd i gymryd rhan mewn prosiect cyffrous i roi mapiau degwm Cymru ar-lein fel bod modd i bawb eu defnyddio. Mae’r mapiau hyn o blwyfi lleol ar ddechrau’r bedwaredd ganrif ar bymtheg, a’r wybodaeth gysylltiedig, yn amhrisiadwy gan eu bod yn dangos y dirwedd, y modd y defnyddiwyd y tir a’r cyfansoddiad cymdeithasol ar y pryd. Caiff y delweddau digidol eu cynhyrchu gan ffotograffwyr yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru ond mae angen cymorth y cyhoedd hefyd i drawsgrifio’r testun ar y mapiau a’r atodlenni, a’u cysylltu a mapiau modern. Bydd Archifdy Sir y Fflint yn cynnal cyfres o weithdai ddydd Mercher 16 Medi i ddangos i unrhyw un a fyddai’n hoffi cymryd rhan yn y prosiect sut y gallant helpu. Nid yw’n anodd a gall gwirfoddolwyr weithio ar eu cyfrifiaduron eu hunain gartref unrhyw adeg o’r dydd neu’r nos. Bydd Carys Evans o brosiect Cynefin yn yr archifdy ym Mhenarlag rhwng 9.30am ac 1pm ac mae croeso i bawb. Rhaid neilltuo lle ymlaen llaw i sicrhau bod pawb yn cael rhywfaint o sylw personol ac yn manteisio i’r eithaf ar y sesiwn. Gallwch ffonio Carys ar 01970 632416. Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Addysg, y Cynghorydd Chris Bithell “Dyma gyfle gwych i bobl Sir y Fflint gymryd rhan mewn prosiect gwerthfawr a chyffrous i ddod â’n hanes yn fyw”.