Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cynllun i sefydlu Academi Hyfforddi newydd

Published: 09/09/2015

Mae Cabinet Cyngor Sir y Fflint yn cael eu hannog i gymeradwyo cynlluniau i sefydlu academi hyfforddi newydd gyda’r bwriad o greu 250 o swyddi a 40 o brentisiaethau newydd ym maes adeiladu dros y pum mlynedd nesaf. Os caiff y cynlluniau eu cymeradwyo, bydd y Cyngor yn sefydlu ei Academi Hyfforddi Gymunedol a chyflogi hyfforddeion a phrentisiaid mewn yn y byd adeiladu. Y bwriad yw buddsoddi £500m ar brosiectau adeiladu yn y sir dros y pum mlynedd nesaf, a byddai’r Academi’n ceisio creu cymaint o gyfleoedd â phosibl i’r gymuned leol a gadael gwaddol parhaol. Caiff y buddsoddiad o £500m ei wario ar dair rhaglen: • Safon Ansawdd Tai Cymru, i wella ansawdd tai cyngor y sir • Ysgolion y 21ain Ganrif sy’n awr yn adeiladau cyfleusterau addysgol yn Nhreffynnon a Chei Connah • Rhaglen Tai ac Adfywio Strategol (SHARP) i adeiladu 500 o gartrefi newydd, a 200 ohonynt yn dai cyngor. Fel rhan o’r broses dendro ar gyfer y tair rhaglen, mae angen i gontractwyr gadarnhau nifer y swyddi lleol, y cyfleoedd hyfforddi a’r prentisiaethau a fydd ar gael. Cynigir y byddai’r Academi wedyn yn rheoli’r cyfleoedd gwaith y byddai’r tri phrosiect yn eu cynnig. Byddai’n gweithio mewn partneriaeth ag asiantaethau gwaith a hyfforddiant gan gynnwys ysgolion a cholegau, i dargedu pobl ifanc 16-24 oed nad ydynt mewn addysg na gwaith a’r rhai sy’n ddi-waith ers tro, er mwyn manteisio i’r eithaf ar y cyfleoedd a fydd ar gael. Yn ogystal â’r cynlluniau i greu gwaith, byddai mentrau cymunedol hefyd yn cael eu datblygu, fel adnewyddu canolfannau cymuned, digwyddiadau, waliau celf a gerddi cymunedol. Byddai’r Academi yn hunangynhaliol gan mai contractwyr fyddai’n ei hariannu fel rhan o’u cytundebau. Dywedodd Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Aaron Shotton: “Mae llawer o arian yn cael ei fuddsoddi yn Sir y Fflint drwy’r prosiectau hyn ac rydym am sicrhau ein bod yn gwneud yn fawr o’r cyfleoedd gwaith a hyfforddiant ac yn creu gwaddol parhaol i’r sir a’r awdurdod. Y nod yw creu dros 250 o swyddi lleol a 40 o brentisiaethau dros y pum mlynedd nesaf. Bydd cymunedau lleol a’r economi leol yn elwa o’r sgiliau a gaiff eu dysgu.” Bydd Cabinet Sir y Fflint yn trafod y cynlluniau ar 15 Medi.