Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Y Llys yn anfon preswylwyr o Sir y Fflint i garchar am beidio â thalur Dreth Gyngor

Published: 16/09/2015

Mae gofyn i dros 67,000 o breswylwyr yn Sir y Fflint dalu’r Dreth Gyngor ac er fod y mwyafrif ohonynt yn talu eu biliau, mae nifer fach sy’n gwrthod talu neu’n esgeuluso eu taliadau. Mewn achosion eithriadol, mae preswylwyr sydd wedi bod yn y llys ar gyfer gwrandawiadau Gorchymyn Dyled, ond sy’n dal i wrthod neu esgeuluso eu taliadwy, ambell waith yn cael eu cyfeirio’n ôl at y llys fel rhan o wrandawiadau traddodi. Gofynnir i’r llys wedyn ystyried p’un a yw’r preswylydd yn euog o wrthod yn fwriadol neu o esgeulustod ar fai. Os yw’r Llys yn canfod fod preswylydd wedi gwrthod talu’n fwriadol neu’n esgeulus, mae gan yr Ynadon rymoedd i roi dedfryd o garchar i’r preswylydd hyd at uchafswm o 90 diwrnod. Mae carchariad diweddar dau o breswylwyr Sir y Fflint, un am 90 diwrnod ac un arall am 40 diwrnod, am esgeuluso eu biliau’r Dreth Gyngor wedi amlygu pa mor bwysig yw gwneud taliadau neu ddod i gytundeb talu synhwyrol gyda’r Cyngor o leiaf. Meddai Clare Budden, Prif Swyddog Cymuned a Menter: “Mynd ag achosion i’r llys yw’r dewis olaf bob tro ac mae’n well gennym weithio gyda phreswylwyr neu eu gweithwyr cyngor dyledion i ddatrys problemau talu cyn i achosion gael eu cyfeirio’n ôl i’r llysoedd. Byddwn bob amser yn erlyn y rheiny sy’n methu neu sy’n gwrthod talu’r Dreth Gyngor, ac fel mae’r achosion hyn yn dangos, gall methu â thalu’n barhaus arwain at ganlyniadau difrifol neu garchar hyd yn oed.”