Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Argyfwng y Ffoaduriaid

Published: 16/09/2015

Yr wythnos ddiwethaf, gwnaeth Cyngor Sir y Fflint ymrwymiad cadarn ar unwaith i fod yn rhan o ymateb llywodraeth leol y DU i dderbyn ffoaduriaid sy’n ffoi o’r gwrthryfel yn Syria. Dywedodd Arweinydd y Cyngor, Aaron Shotton heddiw (15 Medi) : “Wrth i ni wylio trasiedi’r ffoaduriaid yn datblygu sy’n ffoi oddi wrth ryfel ac erledigaeth i chwilio am loches yn Ewrop, mae’n hanfodol fod Llywodraeth Leol yng Nghymru yn cymryd camau i ddarparu diogelwch a lloches i ffoaduriaid sydd wedi gorfod symud o Syria a gwledydd eraill. Ni fydd Cyngor Sir y Fflint yn troi ei gefn ar y rheiny sy’n wynebu argyfwng dyngarol. Mae’r Cyngor yn gweithio gyda phartneriaid cenedlaethol ar hyn o bryd i gynnig cymorth uniongyrchol. Byddwn yn cymryd rhan lawn mewn ymdrech unedig gan gynghorau ac asiantaethau cymorth tai a phartneriaid o’r sector gwirfoddol ledled Cymru a’r DU i ddarparu lloches a chymorth dyngarol i ffoaduriaid. “Rydym yn annog cymunedau Sir y Fflint i gefnogi ein safiad a rhoi arian a chyflenwadau i waith elusennol yr asiantaethau cymorth cenedlaethol arweiniol. “Mae llywodraeth leol yn aros am gyhoeddiad gan gynllun newydd Llywodraeth y DU ar gyfer gwasgaru a chynorthwyo ffoaduriaid. “Mae’r Cyngor wedi sefydlu grwp ymateb, dan arweiniad y Prif Weithredwr, ac mae’n gweithio gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru sy’n cydgysylltu’r ymateb ‘rhanbarthol’, gyda Llywodraeth Cymru, ar ran Cymru. Mae’r grwp ymateb yn un aml-asiantaeth ac mae’n cynnwys Cyngor Gwirfoddol Lleol Sir y Fflint. “Mae llywodraeth leol yn disgwyl i’r cynllun gael ei ariannu’n gyfan gwbl ar lefel genedlaethol”. Meddai’r Prif Weithredwr, Colin Everett: “Yn Sir y Fflint rydym yn bwriadu derbyn nifer o deuluoedd bob blwyddyn. Byddai’r teuluoedd yn byw mewn tai rhentu preifat ac ni fyddent yn effeithio’n uniongyrchol ar restrau aros ac amseroedd ar gyfer tai’r Cyngor a thai cymdeithasol. Yr her fwyaf fydd integreiddio plant mewn ysgolion gyda chymorth iaith a chwricwlwm llawn, ac integreiddio teuluoedd i gymunedau lleol o gofio y bydd y bobl wedi’u creithio’n feddyliol ac yn emosiynol gan y profiad a bydd angen empathi a chymorth arnynt. “Nid oes amserlen wedi’i chreu ar gyfer derbyn y ffoaduriaid cyntaf i’r Deyrnas Unedig, felly dim ond gwneud cynlluniau y gallwn ei wneud ar hyn o bryd.”