Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Gwobrau Busnes Sir y Fflint

Published: 16/09/2015

Yn galw holl fusnesau Sir y Fflint! Rydym yn chwilio am gwmnïau gorau’r sir. Mae gwobrau nodedig Busnes Sir y Fflint yn nesáu ond mae amser o hyd i ymgeisio ac enwebu’ch busnes cyn y dyddiad cau, sef 5pm dydd Mercher 23 Medi. Bydd y seremoni wobrwyo’n cloi Wythnos Fusnes Sir y Fflint a chaiff ei chynnal ym Mhlas Sychdyn ar 23 Hydref. Mae 10 o gategorïau sy’n amrywio o Wobr Allforio’r Flwyddyn i’r Wobr am Lwyddo drwy Arloesi a Llwyddo drwy Gynaliadwyedd. Dyma’r nawfed flwyddyn y caiff y gwobrau eu cyflwyno ac maent yn ffordd wych i fusnesau o bob maint, ym mhob sector, ddathlu eu llwyddiant a chael sylw gwerthfawr. Dywedodd y Cynghorydd Derek Butler, yr Aelod Cabinet dros Ddatblygu Economaidd: “Mae cwmnïau Sir y Fflint yn rhoi cymaint i ni ei ddathlu, hyd yn oed mewn cyfnod economaidd anodd. Gobeithio y bydd cynifer o fusnesau â phosibl yn cymryd rhan ac yn cael y gydnabyddiaeth y maent yn ei haeddu. Gall llwyddiant yng Ngwobrau Busnes Sir y Fflint helpu i godi proffil cwmnïau yn y sir a’r tu hwnt.” Dywedodd Jonathan Turner, Rheolwr Gyfarwyddwr AGS Security Systems, prif noddwr Gwobrau Busnes Sir y Fflint: “Unwaith eto, mae AGS Security Systems yn falch o noddi’r gwobrau hyn. Fel un o’r enillwyr blaenorol, gallaf dystio bod Gwobrau Busnes Sir y Fflint yn wych i fusnesau. Pan gewch eich enwebu, mae’ch proffil yn codi, a chewch gyfle i greu cysylltiadau na fyddai’n bod fel arall. “Rwy’n hyderus y gallai Gwobrau Busnes Sir y Fflint sicrhau canlyniadau gwych i chi a’ch busnes ac rwy’n falch iawn o fod yn rhan o’r cyfan.” Dyma categorïau: Gwobr Prentisiaeth – noddir gan Goleg Cambria Busnes Gorau sy’n Cyflogi dros 50 – noddir gan Pochin’s PLC Busnes Gorau sy’n Cyflogi llai na 10 – noddir gan Edge Transport Busnes Gorau sy’n Cyflogi llai na 50 – noddir gan Ffederasiwn Busnesau Bach Busnes Gorau i Weithio iddo – noddir gan B2 Business Systems Person Busnes y Flwyddyn – noddir gan AGS Security Systems Llwyddiant Allforio’r Flwyddyn – noddir gan Wagtail UK Ltd Cwmni Newydd mwyaf Mentrus – noddir gan DSG Chartered Accountants Llwyddo drwy Arloesi – noddir gan Brifysgol Glyndwr Llwyddo drwy Gynaliadwyedd – noddir gan The Port of Mostyn Ltd Mae rhagor o wybodaeth am y categorïau a’r meini prawf a’r ffurflenni cais ar-lein i’w cael yn www.flintshirebusinessweek.co.uk Cynhelir Wythnos Fusnes Sir y Fflint rhwng dydd Mawrth 13 a dydd Gwener 16 Hydref a bydd digwyddiadau a seminarau mewn gwahanol leoliadau drwy’r sir gan gynnwys Coleg Cambria, Glannau Dyfrdwy; Springfield Hotel, Treffynnon a Gwesty Dewi Sant, Ewlo.