Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cystadleuaeth Cymunedau Taclusaf Sir y Fflint 2015

Published: 18/09/2015

Mae enillwyr pob categori ar gyfer Cymunedau Taclusaf 2015 Sir y Fflint wedi eu cyhoeddi mewn seremoni a gynhaliwyd yn Neuadd y Sir ddydd Gwener 11 Medi. Y cyd-enillwyr ar gyfer y Pentref Taclusaf gyda phoblogaeth o dan 1,000 oedd Llanfynydd a Llanasa, gyda’r trydydd lle yn mynd i Ysceifiog, a’r pedwerydd i Bretton Lane. Aeth y wobr gyntaf am y Gymuned Daclusaf gyda phoblogaeth o dros 1,000 ac o dan 5,000 i Laneurgain, gyda’r ail wobr yn mynd i Higher Kinnerton, a’r drydedd i Gaerwys. Yr Wyddgrug oedd yr enillydd am y Canol Tref Taclusaf, gyda Threffynnon yn ail, ac aeth y drydedd wobr i Fynydd Isa. Ffordd Gwynedd, Llaneurgain enillodd y Stâd Henoed Taclusaf, gyda’r ail wobr yn mynd i Bennetts Lane yn Higher Kinnerton, ar drydedd wobr yn mynd i Park Crescent, Meadow Rise a Corwen Way. Dyfarnwyd y wobr gyntaf am yr Ardd Gymunedol/ Ardal Byd Natur Taclusaf i Greenbank Villas yn y Fflint gyda Gardd Gymunedol Bryn Gwalia, yr Wyddgrug yn ail. Aeth y drydedd wobr i Chwarel Bryn y Baal, gyda Gardd Gymunedol Dyffryn Maes Glas yn cael y bedwaredd wobr. Dyfarnodd y Beirniaid dair Tystysgrif Teilyngdod ir Ysgolion canlynol. Crëwyd argraff dda iawn arnynt gyda gwybodaeth ac ymroddiad y plant hyn, a hwythau mor ifanc Ysgol Gynradd Derwen, Higher Kinnerton Ysgol Gynradd yr Esgob, Caerwys Ysgol Gynradd Owen Jones Primary, Llaneurgain Dyfarnwyd Tystysgrifau Canmoliaeth Uchel gan y Beirniaid i: - Mostyn (Adran B) Meadow Rise, Penyffordd (Adran D) Wrth siarad yn y digwyddiad, dywedodd y Cynghorydd Ray Hughes, Cadeirydd y Cyngor, pa mor falch oedd o gydar brwdfrydedd ac arbenigedd mae’r gwirfoddolwyr wedi eu harddangos eleni: Dywedodd: Bob blwyddyn, rydym yn gweld bod y safonau yn y Gystadleuaeth Cymunedau Taclusaf wedi cynyddun ddramatig. Er nad oedd haf elenir gorau, mae dal yn amlwg bod y cystadleuwyr yn y gystadleuaeth yn well nag erioed. Maen rhaid bod hyn wedi bod yn broblem go iawn i’n beirniaid: Fred Gillmore, Les a Sue Starling. Roedd y safon mor uchel, roedd rhaid ir anrhydeddau gael eu rhannu: er enghraifft, roedd gennym ddwy wobr gydradd gyntaf yn Adran A. Dyfarnwyd Tystysgrifau Teilyngdod i dair ysgol hefyd gan y beirniaid am eu gerddi eco. Rhoddodd y beirniaid hefyd ddwy Wobr Canmoliaeth. “Ni fyddair gystadleuaeth yn bosibl heb gefnogaeth hael ein noddwyr: Airbus yn y DU, Cymdeithas Tai Clwyd Alun, Grwp Cynefin, Lindop Bros, Toyota Motor Manufacturing UK Limited a Warwick Chemicals. “Diolch yn fawr iddyn nhw, a hefyd in beirniaid am yr amser ar wybodaeth y maent yn eu cyfrannu. Maer enillwyr wedi eu rhestru isod. Adran A - Pentref / Cymuned Taclusaf â llai na 1,000 o boblogaeth Gwobr Gydradd Gyntaf: (£100) Llanfynydd Gwobr Gydradd Gyntaf: (£100) Llanasa Trydedd Wobr: (£50) Ysceifiog Pedwaredd Wobr: (£25) Bretton Lane Adran B - Pentref / Cymuned Taclusaf â dros 1,000 a llai na 5,000 o boblogaeth Gwobr Gyntaf: (£100) Llaneurgain Ail Wobr: (£75) Higher Kinnerton Trydedd Wobr: (£50) Caerwys Pedwaredd Wobr (£25) Mostyn Adran C - Canol Tref Taclusaf (dros 5,000 o boblogaeth) Gwobr Gyntaf: (£100 ) Yr Wyddgrug Ail Wobr: (£75) Treffynnon Trydedd Wobr (£50) Mynydd Isa Adran D – Stâd Henoed Taclusaf Gwobr Gyntaf: (£100) Ffordd Gwynedd, Llaneurgain Ail Wobr: (£75) Bennetts Lane, Higher Kinnerton Trydedd Wobr (£50) Park Crescent, Meadow Rise a Corwen Way Adran E – Gardd Gymunedol/Ardal Bywyd Gwyllt Taclusaf Gwobr Gyntaf: (£100) Greenbank Villas, Y Fflint. Ail Wobr: (£75) Gardd Gymuned Bryn Gwalia Trydedd Wobr:(£50) Chwarel Bryn Y Baal Pedwaredd Wobr:(£25) Gardd Gymuned Dyffryn Maes Glas Tystysgrifau Teilyngdod ir tair Ysgol ganlynol Ysgol Gynradd Derwen, Higher Kinnerton Ysgol Gynradd yr Esgob, Caerwys Ysgol Gynradd Owen Jones, Llaneurgain Tystysgrifau Canmoliaeth Uchel i Mostyn (Adran B) Meadow Rise, Penyffordd (Adran D)