Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Grant Gwella Strydlun Glannau Dyfrdwy

Published: 22/09/2015

Mae cynllun grant sy’n targedu siopau a busnesau masnachol yn nhrefi Cei Connah, Garden City, Shotton a Queensferry yn cael ei ail-lansio ym mis Medi gyda lefel uwch o gymorth. Mae grantiau hyd at £15,000 ar gael i bob eiddo i wella ymddangosiad allanol siopau ac adeiladau masnachol ac mae ceisiadau’n cael eu croesawu gan berchnogion a thenantiaid busnesau. Mae nodiadau cyfarwyddyd a ffurflenni mynegi diddordeb ar gael ar wefan y cyngor www.siryfflint.gov.uk, neu gellir eu hanfon trwy e-bost neu drwy’r post. Cysylltwch â Rebecca Alfonso ar (01352) 702016, neu drwy e-bostio Rebecca.alfonso@flintshire.gov.uk Mae’r cynllun grant yn rhan o Raglen Adfywio Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid Llywodraeth Cymru yng Nglannau Dyfrdwy sy’n cael ei ddarparu ar y cyd â Chyngor Sir y Fflint. Meddai’r Cynghorydd Derek Butler, Aelod Cabinet dros Ddatblygu’r Economi: “Mae busnesau bach yn hanfodol i iechyd ein strydoedd mawr a bydd y cynllun grant hwn yn helpu busnesau i fuddsoddi yn eu heiddo, denu cwsmeriaid a gwella ymddangosiad canol ein trefi”.