Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cronfa Busnes Cyfyngiadau - Cam 3

Published: 04/01/2021

Money Fotolia_40586732_XS[1].jpg

Yn dilyn cyhoeddiad Llywodraeth Cymru ynghylch cyfyngiadau pellach yn weithredol o 20 Rhagfyr 2020, mae'r Gronfa Busnes Cyfyngiadau yn cael ei datblygu i ddarparu cefnogaeth barhaus i fusnesau i’w helpu i oresgyn canlyniadau economaidd y mesurau diweddaraf. 

Bu i’r Cyngor ddarparu 201 o grantiau oedd yn gyfanswm o £717,000 cyn y Nadolig i gefnogi busnesau lletygarwch a effeithiwyd gan y cyfyngiadau.

Mae camau nesaf y cynllun grant diweddaraf yn awr ar agor.

Yr wythnos hon, bydd busnesau manwerthu nad ydynt yn rhai hanfodol sydd â gwerth ardrethol o hyd at £51,000 a ‘orfodwyd i gau' o 20 Rhagfyr ac sydd wedi cael y grant cyfnod atal byr diweddar yn Hydref/Tachwedd yn cael taliad grant awtomatig o hyd at £5,000.

Mae ceisiadau ar-lein hefyd yn awr ar agor i fusnesau manwerthu nad ydynt yn rhai hanfodol sydd â gwerth ardrethol o £51,001 i £150,000 a oedd yn anghymwys ar gyfer y ‘Grant Cyfnod Atal Byr'. Mae hyn yn golygu y bydd busnesau manwerthu mwy nad ydynt yn rhai hanfodol yn cael £5,000 o gefnogaeth grant argyfwng am y tro cyntaf o dan y cynlluniau ardrethi annomestig cysylltiedig. 

Bydd busnesau twristiaeth a hamdden ynghyd â busnesau cadwyni cyflenwi i fusnesau twristiaeth, hamdden a lletygarwch sydd â gwerth ardrethol llai na £150,000 hefyd yn gymwys ar gyfer y rownd ddiweddaraf hon o gefnogaeth o hyd at £5,000 os gallant ddangos gostyngiad o 40%+ mewn trosiant yn ystod y cyfnod cyfyngiadau.  

Dywedodd y Cynghorydd Ian Roberts, Arweinydd y Cyngor:

“Rydym yn cydnabod yr anawsterau mae nifer o fusnesau yn eu cael ar hyn o bryd, yn arbennig y rhai y mae’r cyfyngiadau diweddaraf yn effeithio yn uniongyrchol arnynt.

“Rwyf hefyd yn falch o gyhoeddi, i gefnogi’r taliadau awtomatig a wnaed i gefnogi busnesau lletygarwch cyn y Nadolig, bod y cynllun bellach yn cael ei ymestyn i ddarparu cymorth ariannol nid yn unig i fusnesau manwerthu nad ydynt yn rhai hanfodol, ond hefyd i dwristiaeth a hamdden, a hefyd i fusnesau cadwyni cyflenwi i letygarwch, hamdden a thwristiaeth.

“Byddwn yn gwneud taliadau i fusnesau cymwys cyn gynted â phosib gan gynnwys gwneud taliadau awtomatig i fusnesau manwerthu nad ydynt yn rhai hanfodol yn ystod yr wythnos yn cychwyn 4 Ionawr.”

Mae mwy o wybodaeth am bob cynllun a ffurflenni cais ar gael yn siryfflint.gov.uk/Ardrethi-Busnes.