Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Mae angen eich barn ar welliannau Stryd Fawr yr Wyddgrug

Published: 11/01/2021

consultation.jpgMae Cyngor Sir y Fflint a Chyngor Tref yr Wyddgrug angen eich barn ar gynigion i wella ac uwchraddio Stryd Fawr yr Wyddgrug.  

Yn dilyn dyfarniad llwyddiannus o gyllid Llywodraeth Cymru y flwyddyn ariannol hon ac yn ffurfio rhan o gynnig cludiant integredig ehangach ar gyfer yr Wyddgrug, mae’r Cyngor yn cynnig pecyn o fesuriadau wedi’u hanelu at wella bywiogrwydd y Stryd Fawr, lleihau cyfraddau traffig a gwella’r amgylchedd ar gyfer cerddwyr a beicwyr.

Mae'r cynigion yn cefnogi amcanion polisi a nodir yng Nghynllun Tref yr Wyddgrug, yn cefnogi’r dyheadau yn Neddf Teithio Llesol Llywodraeth Cymru yn ogystal â chydymffurfio â gweledigaeth Strategaeth Gludiant newydd Llywodraeth Cymru sy’n anelu i annog mwy o gerdded, beicio a dulliau teithio cynaliadwy.

Mae amlinelliad o’r cynigion yn cynnwys:

  • Ffurfweddu Stryd Fawr Is i System Un Ffordd barhaol (cyfeiriad tua'r de)
  • Cyflwyno lôn feicio dwy ffordd ar Stryd Fawr Is gan gynnwys cyfleusterau beicio gwell.
  • Lledu palmant dwyreiniol i wneud y gorau o wagle troedffordd (yn arbennig ar y mannau sydd â nifer uchel o ymwelwyr) a lleihau mannau cul i gerddwyr. 
  • Mannau parcio dwyreiniol i’w cadw yn dilyn lledu’r droedffordd bresennol.
  • Cadw’r palmant gorllewinol fel y mae.
  • Cadw’r mannau parcio gorllewinol fel y maent.
  • Uwchraddio'r goleuadau traffig presennol i wella llif cerddwyr a cherbydau. 
  • Strydlun gwell gan gynnwys mannau i eistedd a phlanhigion.
  • Mae dewis hefyd (er nad yw’n rhan hanfodol o’r cynllun) i weithredu Gwelliannau Teithio Llesol i’r Stryd Fawr Uchaf a fydd yn golygu ail-werthuso'r trefniadau parcio presennol. 

Mae eich barn yn bwysig ac fe fydd yn ein helpu i ddarparu cynllun ‘wedi’i deilwra’ gan fodloni anghenion y gymuned leol. Rydym eisiau gwella’r Stryd Fawr drwy wneud ein rhwydweithiau’n fwy diogel a gwella cysylltiad o fewn y dref.

Rydym ni eisiau clywed eich barn am ein cynigion, fodd nad yw hi’n bosibl cynnal digwyddiadau ymgynghori wyneb yn wyneb yn sgil cyfyngiadau Covid-19 cyfredol. 

Yn lle hyn, byddwn yn gofyn i roi eich safbwyntiau ar y cynigion ar-lein drwy ein tudalen ymgynghori dynodedig yn siryfflint.gov.uk/CTYrWyddgrug a chwiliwch am ‘Gwelliannau Stryd Fawr yr Wyddgrug’ lle mae holiadur byr wedi’i gynnwys ar gyfer eich sylwadau. 

Os nad oes gennych fynediad at gyfrifiadur, yna gallwch ffonio i gofrestru eich barn ar: 01352 701234. 

Mae’r cyfnod ymgynghori ar agor tan hanner nos ar 29 Ionawr 2021.