Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Ailddarganfod Merched: Hanesion o Archif Gogledd Ddwyrain Cymru

Published: 11/01/2021

Mae hanesion benywaidd ysbrydoledig o’n harchif wedi cael eu trosglwyddo o’r papur i’r sgrin fel rhan o brosiect a ariannwyd gyda Theatr Clwyd.

Mae Archifau Gogledd Ddwyrain Cymru, sy’n cynnwys archifau Sir Ddinbych a Sir y Fflint, wedi ennill dyfarniad grant gan Lywodraeth Cymru i weithio ar y cyd gyda Theatr Clwyd i greu ffilmiau ar yr arddull monolog, sy’n ailadrodd hanesion cyffrous merched cryf ac ysbrydoledig yn ystod ddeunawfed, y bedwaredd ar bymtheg, a’r ugeinfed ganrif.

Mae’r hanesion yn seiliedig ar ferched go iawn a ganfuwyd yng nghasgliadau'r archif yn Rhuthun a Phenarlâg. Byddant yn canolbwyntio ar bedwar bywyd, gan gynnwys:

  • Prifathrawes a oedd wedi ymroi ei hun i addysg;
  • Gweddw glöwr a laddwyd yn nhrychineb pwll glo Gresffordd;
  • Mam yn myfyrio ar iselder ôl-enedigol;
  • Yr enwog Marged ferch Evan, “dynes anhygoel sef heliwr, saethwr, a physgotwr gorau ei chyfnod” fel yr ysgrifennodd Thomas Pennant.

Cynhaliwyd y ffilmio yn ystod Wythnos Archwilio eich Archif, ymgyrch a drefnwyd gan Gymdeithas Archifau a Chofnodion y DU, a gefnogwyd yng Nghymru gan Gyngor Archifau a Chofnodion Cymru.  Mae’r ymgyrch flynyddol hon sy’n para wythnos, yn annog pobl ar draws Cymru i ganfod rhywbeth newydd a chyffrous o fewn yr archifau cenedlaethol, boed hynny’n ymchwilio i hanes eich teulu neu ddarganfod straeon am y bobl a’r lleoedd sydd wrth galon cymunedau Cymru. 

Dywedodd Sarah Roberts, archifydd Archifau Gogledd Ddwyrain Cymru:

“Fel arfer, byddwn yn cynnal digwyddiadau ac arddangosfeydd yn ystod yr adeg hon, ond rydym wedi gorfod meddwl yn fwy creadigol oherwydd cyfyngiadau presennol COVID, ynghylch sut y gallwn ddefnyddio a hyrwyddo ein casgliadau arbennig.

“Mae wedi bod yn gyffrous i weithio gyda Theatr Clwyd ar rywbeth mor wahanol. Rydym yn edrych ymlaen at lansio'r straeon ar-lein dros yr wythnosau nesaf a diddanu pobl dros y cyfnod cloi. Gobeithio y bydd hyn yn ysbrydoli storïwyr a gwneuthurwyr ffilm eraill i seilio eu gwaith ar gasgliadau archif lle bynnag y maent wedi'u lleoli.”

Dywedodd Gwennan Mair, Cyfarwyddwr Ymgysylltu Creadigol yn y Theatr:

"Mae wedi bod yn hynod ddiddorol gweithio gyda’r archif ar y prosiect hwn. Mae wedi ein galluogi i ddod o hyd i straeon cudd o Ogledd Cymru. Rydyn ni'n gobeithio gweithio mwy mewn partneriaeth â'r archif i ddod â straeon yn fyw ac i rannu ein hanes unigryw gyda’r byd mewn ffordd greadigol."

Mae Eleri B. Jones, Cyfarwyddwr Merched a Ailddarganfuwyd a Chyfarwyddwr dan Hyfforddiant yn Theatr Clwyd hefyd wedi gwneud sylwadau:

“Mae ailddarganfod straeon y menywod hyn mewn partneriaeth ag Archifau Gogledd Ddwyrain Cymru wedi bod yn agoriad llygad a phrofiad difyr dros ben. Yn rhy aml, mae straeon hanesyddol o'n hardaloedd gwledig, yn cael eu hanghofio neu eu gorchuddio, yn enwedig o ran menywod blaengar, bob dydd fel y rhai yn ein ffilmiau. Mae wedi bod yn fraint i ddychmygu bywyd o’u persbectif a rhoi llais i’r doethineb sy’n dal yn berthnasol heddiw.”

Cadwch lygad am #MonologDyddLlun dros yr wythnosau nesaf ar sianel YouTube Archifau Gogledd Ddwyrain Cymru ac ar ein blog yn ystod yr wythnosau nesaf i weld y straeon hyn yn dod yn fyw!

agddc.cymru

archifausirddinbych.wordpress.com 

youtube.com/channel

164_ffN_TheatrClwyd_8.jpg 164_ffN_TheatrClwyd_31.jpg
164_ffN_TheatrClwyd_66.jpg Denbigh- Lowri.jpg