Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Dathliadau Gwyl Ddewi 2021

Published: 13/01/2021

Mewn partneriaeth â Chyngor Sir y Fflint, Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam a Ty Pawb, mae Menter Iaith Fflint a Wrecsam wedi trefnu wythnos gyfan llawn o ddathliadau rhithiol i ddathlu Gwyl Ddewi eleni rhwng Mawrth 1af- 5ed.

Bydd y dathliadau yn wahanol i’r arfer ond rydym yn gobeithio y byddant yn adlewyrchu’r ffaith er ein bod ar wahân eleni rydym yn dal yn gallu dod ynghyd yn rhithiol i ddathlu Gwyl Nawddsant Cymru yn ddiogel.  Mi fydd rhywbeth at ddant pawb a, gan gofio i ddilyn canllawiau Covid-19 Llywodraeth Cymru bob amser, mae’r Fenter am eich gwahodd i gymryd rhan mewn amryw o ffyrdd:     

Gorymdaith

Gyrrwch glipiau o’ch teulu, cydweithwyr, mudiad neu gymdeithas yn gorymdeithio.

Pasio’r Faner

Gyrrwch glipiau o bobl yn pasio baner Cymru i’w gilydd drwy ei dal ar eu hochr dde a’i thaflu ymlaen i’r ochr chwith.

“Pwy oedd Dewi Sant?”

Gyrrwch glip ohonoch chi neu aelod o’ch teulu yn ateb y cwestiwn uchod. Cadwch ei atebion mor fyr a chryno â phosib. 

Dydd Gwyl Dewi Hapus

Gyrrwch fideo ohonoch yn dymuno “Dydd Gwyl Dewi Hapus” yn y Gymraeg, Saesneg neu unrhyw iaith arall rydych chi’n ei siarad.   

Mi fydd Eisteddfod rhithiol hefyd yn cael ei chynnal yn ystod yr wythnos gyda sawl cystadleuaeth i’r gymuned: 

Coginio gyda chynnyrch lleol

Gyrrwch lun o’ch campwaith ynghyd â’r rysáit a llun o’r cynhwysyn/ion lleol. 

Celf

Gyrrwch lun o eitem wedi’i greu o bethau wedi’u hailgylchu ar y thema, ‘Hanes Cymru’. 

Ffotograffiaeth

Gyrrwch lun ar y thema ‘Natur’ neu ‘Harddwch Cymru’.

Limrig 

Ysgrifennwch limrig gyda’r llinell gyntaf i gynnwys yr enw ‘Dewi’. 

Cystadleuaeth i’r Dysgwyr

Ysgrifennwch ddeialog ar y thema ‘Mae’r Gymraeg i bawb’. 

I gymryd rhan neu gystadlu yng nghystadlaethau’r Eisteddfod gyrrwch eich cyfraniadau/ eitemau ynghyd â chaniatâd i’w rhannu ar gyfryngau cymdeithasol at maiwenn@menterfflintwrecsam.cymru erbyn 5ed Chwefror gan nodi ym mha sir yr ydych yn byw. Mae manylion cystadlu a chanllawiau ffilmio ar gael ar dudalen Facebook Menter Iaith Fflint a Wrecsam. 

Os am ymuno yn y dathliadau mewn unrhyw ffordd, cofiwch ddefnyddio’r hashnodau #DewiSiryFflint a #DewiWrecsam a chofiwch ddilyn canllawiau Covid-19 Llywodraeth Cymru bob amser. 

Bydd yr holl fideos, lluniau, canlyniadau’r Eisteddfod yn ogystal ag amrywiaeth eang o weithgareddau eraill yn cael eu rhannu ar gyfryngau cymdeithasol Menter Iaith Fflint a Wrecsam rhwng Mawrth 1af- 5ed.

 

Cymryd Rhan.png

 

Cystadlaethau i'r gymuned - Community Competitions_.png

 

Cystadlaethau i'r ysgolion DGD (1).png Ysgolion Cynradd -  Primary Schools_.png