Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Marchnad /Arwerthiant Cist Car dros y Pasg

Published: 10/04/2014

Ni fydd marchnad Heol yr Eglwys, y Fflint, yn cael ei chynnal ar ddydd Gwener y Groglith, 18 Ebrill 2014. Ni fydd Arwerthiant Cist Car yn cael ei chynnal ychwaith ym maes parcio Love Lane, yr Wyddgrug ar Sul y Pasg, 20 Ebrill 2014. Bydd y farchnad ar arwerthiant yn cael eu cynnal fel arfer yr wythnos ddilynol. Codir tâl o £8.50 am un llecyn a hanner yn yr Arwerthiant Cist Car rhwng y Pasg a mis Hydref (£5.50 rhwng mis Tachwedd ar Pasg). Does dim angen neilltuo lle ymlaen llaw, dim ond dod draw ar y diwrnod. Dim ond nwyddau cartref y cewch eu gwerthu. I gael rhagor o wybodaeth, ffoniwch 07711 438113.