Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cadwn Ddiogel ac yn Gynnes y Gaeaf hwn

Published: 24/09/2015

Mae Gwasanaeth Diogelur Cyhoedd, Cyngor Sir y Fflint yn atgoffa trigolion a busnesau i fod yn ddiogel y gaeaf hwn trwy ddiogelu eu hunain rhag y risg o wenwyno carbon monocsid o offer gwresogi diffygiol neu sydd wedi eu cynnal yn wael. Bydd llawer o bobl yn troi eu systemau gwresogi ymlaen am y tro cyntaf mewn sawl mis wrth i ni wynebu’r hydref ar gaeaf ac maen hanfodol bod yn ymwybodol o beryglon gwenwyn carbon monocsid. Mae carbon monocsid (CO) yn nwy gwenwynig y gellir ei gynhyrchu os yw cyfarpar megis poptai, gwresogyddion, tanau a boeleri wedi eu gosod yn anghywir, eu trwsio yn wael neu eu cynnal yn wael. Cyfeirir aton aml fel y lladdwr distaw oherwydd na ellir ei weld, nid ywn arogli ac ni ellir ei flasu. Gall achosi salwch, coma neu farwolaeth pan maen datblygu mewn mannau caeedig. Mae arwyddion rhybudd o wenwyn yn cynnwys cur pen, cyfog, chwydu, pendro, teimlon gysglyd a dryswch. Yn anffodus, nid yw pobl yn sylweddoli’n aml eu bod yn cael eu goresgyn gan nwyon CO nes ei fod yn rhy hwyr. Ar lefelau is gall gynhyrchu symptomau syn debyg i ffliw neu wenwyn bwyd. Mae Carbon Monocsid yn achosi tua 50 o farwolaethau damweiniol hysbys ac oddeutu 200 o anafiadau difrifol yng Nghymru a Lloegr bob blwyddyn. Mae trigolion a busnesau’n cael eu hatgoffa bod angen gwasanaethu’r holl foeleri ac offer nwy (hen neu newydd) a gwirio simneiau a ffliwiau gan arbenigwr bob blwyddyn. Dylair rhai sydd ag offer llosgi tanwydd solet drefnu i lanhau’r simnai o leiaf unwaith y flwyddyn, yn ddelfrydol cyn pob gaeaf, gan y gall nythod adar, gwaith cerrig a rwbel syrthio, yn ogystal â gweoedd pry cop a dail sy’n gallu rhwystro simneiau ac atal neu leihau llif yr aer gan achosi carbon monocsid yn y cartref yn hytrach na chael ei awyrun ddiogel y tu allan. Maer Cyngor hefyd yn annog trigolion a busnesau i ffitio larwm carbon monocsid clywadwy. Maer rhain yn debyg i larymau mwg ac maent ar gael or rhan fwyaf o adwerthwyr DIY. Ni ddylair rhain, fodd bynnag, gymryd lle gwasanaethu rheolaidd. Fel rhywun gyda dros 30 mlynedd o brofiad yn y diwydiant nwy, dywedodd y Cynghorydd Kevin Jones, Aelod Cabinet Cyngor Sir y Fflint ar gyfer Strategaeth Wastraff, Diogelur Cyhoedd a Hamdden: “Mae iechyd a diogelwch holl aelodau ein cymuned ac ymwelwyr in sir yn o’r pwysigrwydd a phryder mwyaf. Ni ellir gorbwysleisio pwysigrwydd sicrhau bod cyfarpar yn cael eu gwasanaethun rheolaidd a gosod larwm carbon monocsid clywadwy. Os ydych yn meddwl eich bod yn cael eich effeithio gan effeithiau Carbon Monocsid fech cynghorir i ddiffodd eich offer, agor eich ffenestri a chael peiriannydd sydd wedi’i gofrestrun briodol edrych ar yr offer cyn gynted ag y bo modd. Dylech hefyd geisio cymorth meddygol a dweud wrthynt eich bod yn credu y gallech fod yn agored i Garbon Monocsid Mae rhagor o wybodaeth ynglyn â pherygl Carbon Monocsid ar gael yn www.covictim.org neu www.co-angels.co.uk Nodiadau ir golygydd 1. Am fwy o wybodaeth ewch i www.covictim.org neu www.co-angels.co.uk 2. Mae carbon monocsid (CO) yn nwy gwenwynig di-liw heb arogl na blas a gynhyrchwyd gan losgi tanwydd carbon yn anghyflawn, gan gynnwys nwy, olew, pren a glo. Mae tanwydd syn seiliedig ar garbon yn ddiogel iw ddefnyddio. Dim ond pan na fydd y tanwydd yn llosgin iawn (fel yn absenoldeb digon o aer) mae gormod o CO yn cael ei gynhyrchu. 3. Mae gan ein gwaed elfen or enw hemoglobin, sydd fel arfer yn amsugno ocsigen yn ein hysgyfaint ac yn ei gario i weddill y corff. Ond mae haemoglobin yn amsugno Carbon Monocsid 240 gwaith yn haws nag ocsigen. Felly, pan fyddwn yn anadlu Carbon Monocsid or aer, y nwy gwenwynig hwn, yn hytrach nag ocsigen syn glynu ei hun ir hemoglobin, gan newynu’r corff rhag ocsigen. Po leiaf y person, po gyflymaf y gall y corff gael ei oresgyn gan effeithiau Carbon Monocsid. 4. Mae yna weithiau ddangosyddion corfforol a all awgrymu nam gydag offer domestig neu ffliwiau. Arwyddion o drafferth yw marciau huddygl du ar y bariau clai uwchben y fflamau nwy o danau nwy, marciau huddygl ar y wal o gwmpas stôf, boeleri neu danau a mwg yn cronni mewn ystafelloedd oherwydd ffliwiau diffygiol. Mae fflamau melyn yn lle glas o offer nwy yn arwydd arall y gallai fod nam ar yr offer.