Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Dosbarth Meistr Chwilota am Fwyd

Published: 28/09/2015

Bydd trigolion Sir y Fflint yn cael y cyfle i chwilota am eu cinio mewn Dosbarth Meistr Bwyd Coetir Gwyllt ym Mharc Gwepre, y mis nesaf. Mae Tîm Celfyddydau, Diwylliant a Digwyddiadau Cyngor Sir y Fflint wedi trefnur dosbarth meistr a arweinir gan y chwilotwr bwyd profiadol Matt Normansell ar ddydd Sadwrn 17 Hydref rhwng 10.30am-4.00pm. Bydd Matt yn arwain y grwp ar antur gan adnabod rhai or planhigion bwytadwy syn tyfu’n helaeth o amgylch y lle ac mae prif gogyddion y wlad yn ceisio cael hyd iddynt. Dywedodd fod pobl yn mynychu am wahanol resymau. Mae rhai yn oroeswyr, mae rhai eisiau bwyd maethlon naturiol, mae rhai eisiau bwyd am ddim, ac mae rhai yn chwilfrydig. Maer digwyddiad yn costio £30 ac mae angen cadw lle. Am ragor o wybodaeth neu i archebu lle cysylltwch â Beth Ditson, Swyddog Digwyddiadau Cymunedol Sir y Fflint ar 07786 523601 neu e-bostiwch beth.ditson@flintshire.gov.uk. Gwybodaeth am Matt Normansell, cyrsiau chwilota a ryseitiau bwyd gwyllt ar gael yn www.edenwildfood.co.uk a gellir ei ddilyn ar Twitter https://twitter.com/edenwildfood.