Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Peidiwch â methu cyfle i arbed ynni ar filiau ynni

Published: 29/09/2015

Mae trigolion Sir y Fflint yn cael eu hannog i gofrestru â chynllun prynu ynni ar y cyd ar gyfer Cymru gyfan, a ddylai eu galluogi i arbed arian ar eu biliau tanwydd. Mae Cyd Cymru / Wales Together yn brosiect newid cwmnïau ynni a ariennir gan Lywodraeth Cymru. Mae newid cwmnïau ynni ar y cyd yn golygu fod nifer fawr o gartrefi’n dod at ei gilydd i brynu eu hynni, a thrwy wneud hynny gall Cyd Cymru / Wales Together gydfargeinio gwell prisiau, sy’n arwain at greu arbedion i ddefnyddwyr. Po fwyaf o bobl sy’n cymryd rhan, y mwyaf y gall pobl ei elwa’n ariannol. Y dyddiad cau ar gyfer cofrestru diddordeb yn y cynllun yw 19 Hydref. Meddai’r Cynghorydd Bernie Attridge, Aelod o’r Cabinet ar gyfer yr Amgylchedd: “Rydym yn annog holl drigolion Sir y Fflint i gofrestru â Chyd Cymru. Drwy uno gyda’i gilydd i brynu ynni, gall cartrefi gael gwell prisiau. Wrth gofrestru â Chyd Cymru nid oes unrhyw gostau na rhwymedigaeth i newid cwmni, ond unwaith y bydd y cynnig ar gael ym mis Hydref gallwch weld faint y gallech ei arbed cyn i chi benderfynu a ydych am symud. Byddwch hefyd yn gallu gweld sut mae hynny’n cymharu â tariffau presennol ar y farchnad. Dros y tri symudiad diwethaf mae Cyd Cymru wedi rheoli grym prynu swmpus i arbed ar gyfartaledd £225 ar filiau ynni blynyddol pob cartref.” Ar ôl cofrestru, bydd preswylwyr yn derbyn cynnig o bris ynni heb unrhyw rwymedigaeth. Mae gwybodaeth bellach ar gael naill ai ar-lein ar www.cydcymru-energy.com neu drwy ffonio 0800 093 5902.