Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Lliw yn y Llyfrgell

Published: 29/09/2015

Cynhelir arddangosfa ysbrydoledig o bortreadau’r artist o Frychdyn, Clayton Langford, yn yr oriel ar lawr uchaf Llyfrgell Bwcle drwy gydol mis Hydref. Dyma’r bumed yn y gyfres o arddangosfeydd, Art in the Library – Lliw yn y Llyfrgell, sy’n anelu at gynorthwyo artistiaid lleol, rhai ohonynt sydd erioedd wedi arddangos eu gwaith o’r blaen, drwy roi llwyfan iddynt arddangos eu gwaith i’r cyhoedd. Drwy gydol y flwyddyn bydd y rhaglen arddangos yn Llyfrgelloedd Sir y fflint yn cynnwys peintiadau gan Angie Hoopert, Emma Jayne-Holmes a Clayton Langford, brasluniau gan Scott Bongo a ffotograffau gan Ceridwen Barkley. Meddai Clayton am ei waith: “Rwy’n artist aml-gyfryngau o Frychdyn, Sir y Fflint. Rwy’n mwynhau archwilio a gweithio gydag amryw o wahanol gyfryngau gan gynnwys pensil graffit, inc, paent acrylic a dyfrlliw. Fel artist portreadau, rwy’n dwyn fy ysbrydoliaeth o fy angerdd tuag at gerddoriaeth o amryw o genres.” Meddai’r Cynghorydd Chris Bithell, Aelod Cabinet dros Addysg: Rwy’n falch fod tîm Celfyddydau, Diwylliant a Digwyddiadau a gwasanaeth Llyfrgelloedd Cyngor Sir y Fflint yn parhau i gefnogi ein doniau lleol - gan arddangos eu gwaith a chynorthwyo ein hartistiaid fel busnesau.” Cynhelir arddangosfa breifat o waith Clayton am 5.30pm ddydd Iau 1 Hydref a chaiff ei waith ei arddangos drwy gydol mis Hydref. Os hoffai unrhyw wneuthurwyr, artistiaid a chrefftwyr arddangos eu gwaith fel rhan o fenter Lliw yn y Llyfrgell – Art in the Library’ gallant e-bostio gwenno.e.jones@flintshire.gov.uk gyda thri llun o’u gwaith a datganiad byr am eu harferion celf neu grefft. Lluniau Clayton Langford.docx