Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cais am Fentoriaid Gwirfoddol

Published: 30/09/2015

A fyddech chi’n gallu bod yn fodel rôl da i bobl ifanc? Os felly, hoffai Gwasanaeth Mentoriaid Gwirfoddol Cyngor Sir y Fflint glywed gennych. Mae nifer y plant mewn gofal yn cynyddu felly mae tîm gwasanaethau cymdeithasol y cyngor yn apelio ar fwy o bobl leol i fod yn fentoriaid gwirfoddol. Mae mentoriaid yn gweithio ar sail un i un gyda phobl ifanc mewn gofal, sy’n gadael gofal neu sy’n byw adref gyda’u teuluoedd, gan ddarparu clust i wrando a’u hannog i gyflawni eu nodau. Mae Mike Turner, 34, o Fwcle wedi bod yn gwirfoddoli fel mentor dros y pum mlynedd diwethaf a dywed ei fod wedi elwa cymaint o’r profiad. Meddai: “Roeddwn i’n gwybod fod gennyf rywbeth i’w gynnig ac roeddwn i am wneud rhywbeth gwahanol, heb unrhyw bwysau er mwyn gallu ei wneud ochr yn ochr â fy swydd lawn amser felly roedd gwirfoddoli’n berffaith. “Mae wedi bod yn brofiad boddhaus a phositif a byddwn yn annog eraill i gymryd rhan.” Clywodd Mike am y cynllun mentoriaid gwirfoddol drwy Gyngor Gwirfoddol Lleol Sir y Fflint yn yr Wyddgrug a dros y 5 mlynedd diwethaf mae wedi gweithio gyda 6 o wahanol bobl ifanc. “Maent i gyd yn wahanol iawn. Yr her yw dod i’w hadnabod a’u cynorthwyo gyda’u nodau,” meddai. “Dydw i ddim yn arbenigwr ac rydw i yno i gynnig cymorth a’u rhoi ar y trywydd cywir, eu hannog i gymryd rhan mewn gweithgareddau a’u helpu i feithrin hyder. “Rydym yn sgwrsio am yr ysgol a’r pethau y meant yn eu gwneud yno. Wrth feithrin ffydd a pherthynas, maent yn gwybod y gallant drafod unrhyw broblemau gyda chi. Rydym yn trafod eu dewisiadau ar gyfer y dyfodol a gallaf eu cyfeirio at grwpiau a gwasanaethau nad ydynt o bosibl yn gwybod amdanynt.” Mae mentoriaid yn cael cymorth a hyfforddiant gan Wasanaethau Cymdeithasol Sir y Fflint ac maent yn cael eu paru’n ofalus ag unigolyn ifanc sy’n cyd-fynd â’u diddordebau a’u hanghenion. Meddai Maike: “Rwyf wedi cael cyfle i ennill sgiliau, hyfforddiant a gwaith mewn meysydd eraill o wasanaethau cymdeithasol.” Dywed Andrea Wade, Cydgysylltydd Mentorau Cyngor Sir y Fflint, nad oes angen gwybodaeth na phrofiad blaenorol ar fentoriaid, dim ond sgiliau rhyngbersonol da ac ymrwymiad i gynorthwyo pobl ifanc. Meddai: “Mae pobl ifanc wedi dweud wrthym yr hoffent fentoriaid cyfeillgar, sy’n wrandawyr da, sy’n gallu meithrin hyder ac sy’n ddibynadwy.” Meddai’r Cynghorydd Christine Jones, Aelod Cabinet dros Wasanethau Cymdeithasol: “Mae cynllun mentora’r Cyngor wedi bod yn llwyddiannus iawn ac mae’r gwirfoddolwyr yn gwneud gwahaniaeth candarnhaol i fywydau’r bobl ifanc dan sylw. Dywed ein mentoriaid eu bod yn cael boddhad o’r profiad. Byddwn yn annog unrhyw un sydd â diddordeb yn y cynllun i gysylltu â ni.” Am fwy o wybodaeth am y Gwasanaeth Mentoriaid Gwirfoddol, edrychwch ar wefan y Cyngor, anfonwch e-bost at Mentoring@flintshire.gov.uk neu ffoniwch Andrea Wade ar 01352 701089.