Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cwmnïau lleol yn elwa o gartrefi newydd yn Sir y Fflint

Published: 05/10/2015

Mae Wates Living Space, y contractwr tai fforddiadwy a benodwyd ym mis Mehefin eleni i gyflwyno Rhaglen Tai ac Adfywio Strategol Cyngor Sir y Fflint (SHARP), yn galw ar fusnesau lleol i hwyluso gwaith adeiladu 500 o gartrefi newydd ar draws y sir. Bydd y contractwr yn adeiladu amrywiaeth o dai cyngor newydd, tai fforddiadwy ac unedau marchnad agored ac mae’n cynnal digwyddiad Cwrdd âr Prynwr ar gyfer Mentrau Bach a Chanolig lleol o 2pm tan 7.30pm Ddydd Mercher, 7 Hydref, yn y Village Urban Resort, Stryd Caer, Parc Dewi Sant, Ewlo. Bydd y digwyddiad yn rhoi cyfle i isgontractwyr o ystod o grefftau* gwrdd â’r tîm prosiect a chyflwyno tendr i ddod yn rhan o gadwyn gyflenwi Wates. Maer symudiad yn rhan o ymrwymiad ar y cyd gan Gyngor Sir y Fflint a Wates Living Space i sicrhau y bydd y gwaith o adeiladu cartrefi newydd ar draws Sir y Fflint yn rhoi hwb ir economi, wrth greu cyfleoedd cyflogaeth a hyfforddiant i bobl leol. Yn amodol ar ganiatâd cynllunio, bydd y prosiectau cyntaf yn cynnwys safleoedd a gliriwyd y fflatiau deulawr yn y Fflint, safle wedii glirio hen Ysgol Custom House yng Nghei Connah a safle gwledig yng Nghoed-llai. Disgwylir ir gwaith ddechrau yn gynnar y flwyddyn nesaf. Fel rhan oi waith yn Sir y Fflint, bydd Wates Living Space hefyd yn cynnal amrywiaeth o seminarau ar gyfer busnesau bach a chanolig lleol a mentrau cymdeithasol fel rhan o Wythnos Fusnes Sir y Fflint, mewn ymdrech i gynyddu’r fantais gymunedol a grëwyd drwy gydol y prosiect pum mlynedd. Dywedodd y Cynghorydd Aaron Shotton, Arweinydd Cyngor Sir y Fflint: “Maen gyfnod gwirioneddol gyffrous wrth i ni ddechrau gweld y fantais sy’n cael ei chreu gan ein buddsoddiad mewn cartrefi newydd, buddsoddiad a fydd hefyd yn mynd ymhell tuag at sicrhau ein bod ar y blaen wrth fynd ir afael âr argyfwng tai. “Maer rhaglen hon yn ymwneud â llawer mwy na chartrefi. Bydd yn creu swyddi ac yn rhoi hwb i fusnesau lleol ac nid oes gennyf unrhyw amheuaeth na fydd effeithiau ymledol y fantais yn cael eu teimlo ledled y sir dros y pum mlynedd nesaf a thu hwnt.” Ychwanegodd Lee Sale, Cyfarwyddwr Busnes Rhanbarthol, Wates Living Space: “Mae cynlluniau adfywio uchelgeisiol megis Raglen Tai ac Adfywio Strategol Chyngor Sir y Fflint yn ffordd amhrisiadwy o sicrhau bod buddsoddiad yn creu twf a chyfle. “Yn hanfodol, bydd y cartrefi newydd hyn yn gwella ansawdd bywyd i bobl Sir y Fflint. Y tu hwnt i hyn, fodd bynnag, bwriad Wates a Chyngor Sir y Fflint yw bod etifeddiaeth barhaus yn cael ei chreu ar gyfer pobl leol a thrwy ymgysylltu â chwmnïau lleol, rydym yn bwriadu creu cyfleoedd helaeth ar gyfer hyfforddiant a chyflogaeth.” Nodyn i olygyddion *Rhestr lawn o grefftau · Gwaith tir · Gwaith brics · Gosod concrid · Gwaith saer · Plastro · Toi · Plymio · Trydanol · Peintio ac addurno · Mastig · Glanhau · Ffensio · Tirlunio · Ffenestri · Ceginau · Nwyddau dwr glaw Am Wates Living Space Mae Wates Living Space, rhan o Grwp Wates, yn un o brif ddarparwyr tai fforddiadwy a chynnal a chadw yn y DU. Gan weithredu ar draws y DU, mae’n canolbwyntio ar weithio gydag awdurdodau lleol a phartneriaid cymdeithasau tai yn eu cymunedau lleol i adeiladu mwy o gartrefi a gwella tai presennol drwy waith cynnal a chadw ymatebol ac wedi’i gynllunio. Mae Grwp Wates, a sefydlwyd dros 118 o flynyddoedd yn ôl, yn cyflogi dros 2,000 o bobl ac fe gafodd drosiant o fwy na £1 biliwn yn 2014. Dyma’r cwmni preifat cyntaf erioed i gael ei ddyfarnu gyda Marc y Gymuned gan Fusnes yn y Gymuned ac yn 2013 cafodd ei ddyfarnu gyda’r Wobr Busnes Cenedlaethol gyntaf am Ddinasyddiaeth Gorfforaethol i gydnabod ei arweinyddiaeth a’i ragoriaeth wrth fuddsoddi yn y gymuned.