Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


E-filiau

Published: 19/05/2014

Mae dros 1,000 o breswylwyr a busnesau wedi manteisio ar yr opsiwn newydd i dderbyn eu biliau treth gyngor trwy e-bost ers iddo gael ei gyflwyno ym mis Ionawr. Mae’r gwasanaeth e-filio newydd yn hollol ddi-dâl ac mae’n golygu bod preswylwyr a busnesau, yn lle derbyn bil papur traddodiadol, yn gallu dewis derbyn eu bil trwy e-bost. Gydag e-byst yn cael eu hanfon allan ar eu hunion nid oes byth unrhyw broblem gyda biliau’n cael eu dal yn ôl yn y post ac mae pobl sy’n ymgofrestru i dderbyn biliau yn electronig yn dal i fod â’r dewis o lawrlwytho a phrintio’u biliau eu hunain os bydd angen, fel bod cwsmeriaid bellach yn gallu cael at eu bil 24 awr y dydd. I Gyngor Sir y Fflint, mae e-filio yn lleihau cost, mae’n lleihau effaith amgylcheddol biliau papur ac mae’n helpu i gwrdd â disgwyliadau cwsmeriaid, y mae llawer ohonynt wedi arfer ymdrin â biliau a thaliadau ar-lein yn barod. Meddai’r Cynghorydd Billy Mullin, Aelod y Cabinet dros Lywodraethu Corfforaethol: “Mae’n arfer cyffredin y dyddiau hyn i gwsmeriaid gael yr opsiwn o dderbyn a thalu biliau yn electronig, ac mae’n braf gweld bod dros 1,000 o breswylwyr yn manteisio ar y gwasanaeth hwn yn barod.” Dros yr ychydig fisoedd nesaf bydd y Cyngor yn rhoi cyhoeddusrwydd eang i’w gyfleuster e-filio newydd yn ystod sgyrsiau wyneb yn wyneb neu drwy alwadau ffôn gyda phobl, gyda’r nod o ychwanegu eu henwau at y rhestr gynyddol o breswylwyr a busnesau sy’n dewis derbyn eu biliau yn electronig. Os yw pobl yn dymuno cael at eu biliau yn electronig ond nad oes ganddynt fynediad at y rhyngrwyd, byddent yn cael eu cyfeirio at ddefnyddio Cyfrifiaduron Personol sydd ar gael yn eu llyfrgell leol neu Ganolfan Sir y Fflint yn Cysylltu leol. I gofrestru ar gyfer y gwasanaeth e-filio ar-lein newydd cysylltwch â gwasanaeth Refeniw Sir y Fflint ar 01352 704848 neu ymgofrestrwch ar-lein ar www.flintshire.gov.uk/ebilling.