Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cynlluniau iw gweld

Published: 01/10/2015

Mae’r cynlluniau ar gyfer tai cyngor a thai fforddiadwy ar hen safle The Walks yng nghanol tref y Fflint i’w gweld mewn digwyddiad cyhoeddus yn Eglwys y Santes Fair ar Heol yr Eglwys ddydd Gwener, 9 Hydref rhwng 10am a 5pm. The Walks fydd y safle cyntaf a gaiff ei ailddatblygu fel rhan o Raglen Tai ac Adfywio Strategol y Cyngor. Bydd 92 o dai cyngor a thai fforddiadwy newydd yn cael eu hadeiladu a disgwylir i’r gwaith adeiladu ddechrau yn gynnar yn 2016. Dywedodd y Cynghorydd Helen Brown, yr Aelod Cabinet dros Dai, Mae’r cynllun wedi’i seilio ar Safon tai Sir y Fflint, a ddatblygwyd i greu manyleb dechnegol o safon uchel ar gyfer y cartrefi newydd. Rwy’n falch iawn ein bod yn bwrw ymlaen â’r rhaglen tai ac adfywio gyffrous hon ar gyfer hen safle’r fflatiau deulawr. Meddai’r Cynghorydd. Aaron Shotton, Arweinydd y Cyngor, Mae hwn yn gyfnod arbennig o gyffrous, nid yn unig i ganol tref y Fflint ond i’r sir gyfan wrth i godi 500 o gartrefi newydd drwy Sir y Fflint drwy Raglen Tai ac Adfywio’r Cyngor, gan gynnwys 200 o dai cyngor newydd.” Bydd y rhaglen yn rhoi blaenoriaethau’r Cyngor ar waith, gan ddarparu tai cyngor newydd a thai fforddiadwy newydd i bobl Sir y Fflint , a chan hefyd gynnig gwaith a hyfforddiant i bobl leol.”