Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Swydd partneriaeth

Published: 20/05/2014

Penodwyd ceidwad cefn gwlad newydd gan Wasanaethau Cefn Gwlad Sir y Fflint a’r Ymddiriedolaeth Cadwraeth Amffibiaid ac Ymlusgiaid. (ARC). Mae’r ddau sefydliad wedi ymuno i greu swydd ceidwad cadwraeth newydd i ddatblygu ymwybyddiaeth o gadwraeth amffibiaid ac ymlusgiaid yn Sir y Fflint. Bydd y swydd yn cefnogi’r ceidwaid cefn gwlad yng nghynefinoedd arfordirol a gwledig Sir y Fflint i greu a chynnal safleoedd ffafriol er lles amffibiaid ac ymlusgiaid. Bu’r Ymddiriedolaeth yn gweithio gyda grwpiau ac awdurdodau lleol yng Ngogledd Cymru am yr un mlynedd ar bymtheg ddiwethaf ar brosiectau allweddol megis ailgyflwyno llyffantod cefnfelyn a madfallod y twyni. Dechreuodd Mandy Cartwright, y ceidwad newydd, sy’n byw yn Sir y Fflint, ei gyrfa fel gwirfoddolwr gyda Gwasanaethau Cefn Gwlad Sir y Fflint ac mae hi wrth ei bodd o fod yn gweithio gyda’r ddau sefydliad. Meddai Mandy: “Rwyf wedi cynhyrfu’n fawr ynghylch dechrau’r swydd newydd yma. Ar ôl gweithio i Hafan am y tair blynedd ddiwethaf yn gofalu am dwyni tywod, llyffantod cefnfelyn a madfallod y twyni yn Sir y Fflint, rwyf yn barod i ddechrau arni gyda’m holl fryd gan ddefnyddio fy ngwybodaeth i weithio gyda’m cymuned a chyfoethogi bywyd gwyllt Sir y Fflint.” Meddai Gary Powell, Uwch-reolwr Gwarchodfeydd i ARC, wrth wneud sylw ar swydd gyntaf y sefydliad yng Ngogledd Cymru: “Bydd y cyfuniad o ARC a Chyngor Sir y Fflint yn gweithio gyda’i gilydd yn caniatáu inni ddatblygu ffyrdd newydd ac arloesol o fynd ati i hybu cadwraeth ymlusgiaid ac amffibiaid. Mae’r prosiect yn rhoi cyfleoedd inni weithio gydag amrywiaeth eang o bartneriaid yn y maes pwysig hwn.” Meddai Tom Woodall, Pennaeth Gwasanaeth Cefn Gwlad Sir y Fflint: “Mae’n gyfle gwych i ni fel Gwasanaeth Cefn Gwlad uno â’r Ymddiriedolaeth Cadwraeth Amffibiaid ac Ymlusgiaid i greu’r swydd partneriaeth newydd yma ble gall y naill a’r llall ohonom glymu ein profiad ynghyd i greu safleoedd amffibiaid ac ymlusgiaid o safon uchel yn Sir y Fflint ac yng Ngogledd-Ddwyrain Cymru.” I gael gwybod mwy am y gwaith y mae Mandy yn ei wneud cysylltwch â hi trwy mandy.cartwright@arc-trust.org, 07979 718 676 neu Barc Wepre 01244 814931.