Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Digwyddiad Age Positive

Published: 15/10/2015

Bu tua 40 o bobl yn mwynhau hel atgofion yn Archifdy Cyngor Sir y Fflint fel rhan o ddigwyddiad ‘Age Positive’. Yn ystod y digwyddiad ‘Beatnik or Hippy’ aeth ymwelwyr ar siwrnai hiraethus i’r 50au a’r 60au gydag arteffactau a cherddoriaeth i’w hatgoffa sut le oedd Sir y Fflint yn y cyfnod hwnnw. Defnyddiwyd ffotograffau a phapurau newydd o’r archifau a chasgliad o ddillad hyfryd, llyfrau, gemau a gwrthrychau o’r cartref o’r amueddfa i helpu pobl i gofio’r oes a fu. Trefnwyd y digwyddiad fel rhan o wythnos Age Positive a mwynhaodd pawb a fynychodd yn fawr iawn. Meddai’r Aelod o’r Cabinet dros Addysg, y Cynghorydd Chris Bithell: “Mae Wythnos Age Positive yn ddathliad blynyddol o’r hyn sy’n bositif am heneiddio ac rwy’n falch iawn fod Archifdy Sir y Fflint wedi ei gefnogi drwy gynnal y digwyddiad ardderchog hwn i drigolion lleol.”