Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cynnal a Chadw Pont Sir y Fflint

Published: 15/10/2015

Mae disgwyl i waith cynnal a chadw ddechrau ar Bont Sir y Fflint ar yr A548 yn ddiweddarach y mis hwn. Bydd y bont ar gau i draffig am sawl penwythnos ym mis Tachwedd a Rhagfyr tra bo gwaith hanfodol i archwilio a chynnal a chadw’r ceblau’n cael ei wneud. Bydd y gwaith yn decrhau ar 23 Hydref a bydd yn cymryd hyd at wyth wythnos. Caiff y traffig ei ostwng i un lôn yn ystod yr wythnos er mwyn i waith gael ei wneud ar y dec a bydd y bont ar gau ar y penwythnosau canlynol fel bo gwaith yn cael ei wneud ar y ceblau ar y pier: 7-8 Tachwedd 21-22 Tachwedd 28-29 Tachwedd 5-6 Rhagfyr 12-13 Rhagfyr Ni fydd y mesurau rheoli traffig yn weithredol yn ystod Rali GB Cymru a gynhelir o 11-15 Tachwedd. Meddai Barry Wilkinson, Rheolwr Rhwydwaith Priffyrdd, “Rydym yn gwerthfawrogi y gallai’r gwaith hwn achosi rhywfaint o anhwylustod ond gofynnaf i deithwyr cyhoeddus am eu hamynedd tra bo’r gwaith cynnal a chadw hanfodol hwn yn cael ei gwblhau.”