Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Ysgol yn ymweld â’r Cyngor

Published: 22/05/2014

Mae disgyblion ac athrawon o Ysgol Gynradd Derwenfa yng Nghoed-llai wedi ymweld â Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug. Dangoswyd Siambr y Cyngor i’r disgyblion ac esboniwyd iddynt sut mae’r Cyngor yn gweithio. Fe wnaethant gyfarfod â’r Cynghorydd Carolyn Thomas, yr oedd ei thymor fel Cadeirydd y Cyngor ar fin dod i ben, a chyflwynwyd tystysgrifau iddynt i gofio am eu hymweliad. Roedd yr aelod lleol, y Cynghorydd Ray Hughes, hefyd yn bresennol. Capsiwn y llun, o’r chwith i’r dde: y Cyng. Ray Hughes, Andrew Jones, Pennaeth, Carlton Jones, y Cyng. Carolyn Thomas a disgyblion o Ysgol Derwenfa.