Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Un ymdrech olaf ym Mharc Gwepra

Published: 16/10/2015

Mae prosiect i drawsnewid Parc Gwepra ac adfer Gerddi’r Hen Neuadd iw hen ogoniant rwan yn cyrraedd ei gymal olaf. Mae Cyngor Sir y Fflint wedi bod yn gwneud defnydd da o grant o £583,400 oddi wrth Raglen Parciau a Phobl Cronfa Dreftadaeth y Loteri gyda phecyn o welliannau a gwaith adfer sylweddol ledled y parc. Maer prosiect wedi cynnwys ffensys a llwybrau troed newydd, adfer Gerddi’r Hen Neuadd, creu gardd gymunedol newydd, cynllun plannu coed yn ogystal â gwell cyfleusterau addysgol a byrddau dehongli i helpu pobl leol ac ymwelwyr i archwilio hanes y parc, y gerddi a Chastell Ewlo. Maer prosiect tair blynedd bellach wedi cyrraedd ei chwe mis olaf ac maer ymdrech olaf yn cael ei gwneud i gwblhaur trawsnewid. Mae’r gwaith o adfer y wal 150 mlwydd oed yng Ngerddi’r Hen Neuadd yn tynnu at y terfyn gyda gwaith i ddilyn ar y nodweddion hanesyddol ac ailosod y gerddi. Bydd y prif lwybr drwyr parc ar gau ir cyhoedd am y 6-8 wythnos nesaf wrth ir gwaith i wella mynediad i Gastell Ewlo gael ei wneud. Bydd gwyriadau ar waith. Dywedodd y Cynghorydd Bernie Attridge, Aelod Cabinet dros yr Amgylchedd: “Mae hon wedi bod yn daith hir, ond gyda’r diwedd bellach yn ein golygon, bydd y parc yn cael ei drawsnewid. Rydw i wrth fy modd gydar gwaith hyd yma a hoffwn fynegi diolch arbennig i ymdrechion yr holl wirfoddolwyr sydd wedi rhoi ou hamser i gymryd rhan yn y prosiect dros y ddwy flynedd ddiwethaf.” Pennawd y llun – Y Cyng Attridge yn cael golwg ar y gwaith gwella sy’n mynd yn ei flaen ym Mharc Gwepra gyda Tom Woodall, Pennaeth Gwasanaethau Cefn Gwlad Cyngor Sir y Fflint.