Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Mae pob llun yn adrodd stori

Published: 16/10/2015

Mae nifer o weithdai celf yn cael eu cynnal yn Sir y Fflint fel rhan o wyliau celf y Darlun Mawr a Chelf i’r Teulu. Yr Artistiaid Emma- Jayne Holmes ac Eleri Jones fydd yn arwain y gweithdai, a drefnir gan Gyngor Sir y Fflint, a’r thema fydd ‘Mae pob llun yn adrodd stori’. Defnyddir amrywiaeth o ddulliau darlunio a phaentio ym mhob sesiwn, a fydd yn addas i bobl o bob oed a gallu. Felly, beth am neilltuo lle yn un o’r digwyddiadau teuluol a rhyddhau’ch ysbryd creadigol? Dydd Llun 26 Hydref - 10am - 12 hanner dydd Llyfrgell Bwcle - ‘Mae pob llun yn adrodd stori’ a 1.30 - 3.30pm arddangosfa o gasgliad yr amgueddfa. Ffoniwch Lyfrgell Bwcle ar 01244 549210 neu e-bostiwch buckley.library@flintshire.gov.uk Dydd Mawrth 27 Hydref - 10am - 12 hanner dydd a 1.30-3.30pm ym Mharc Gwepra. Dau weithdy teuluol ar y thema Ar Drywydd Stori drwy’r parc. Ffoniwch Barc Gwepra ar 01352 703900 neu e-bostiwch countryside@flintshire.gov.uk Dydd Mercher 28 Hydref - 10am - 12 hanner dydd a 1.30-3.30pm yn Archifdy Sir y Fflint. Dau weithdy teuluol ar y thema Ar Drywydd Stori drwy Penarlâg. Ffoniwch yr Archifdy ar 01244 532364 neu e-bostiwch archives@flintshire.gov.uk