Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Clwb Menter Sir y Fflint

Published: 22/10/2015

Ydych chi’n entrepreneur gyda syniad busnes ond ddim yn gwybod sut i’w ddatblygu ir lefel nesaf? Gall Clwb Menter Sir y Fflint eich helpu drwy gynnig llawer o gyngor defnyddiol ynglyn â dechrau eich busnes eich hun. Gyda gweithdai am ddim gan Brifysgol Glyndwr, maer clwb yn cynnig amgylchedd cyfeillgar, hamddenol a llawn gwybodaeth ac mae’n gyfle gwych i rwydweithio. Cynhelir sesiynau bob yn ail ddydd Gwener ar Gampws Cymunedol John Summers, Queensferry o 10am hyd ganol dydd. Mae’r gweithdai, a gynhelir yn rhad ac am ddim, dros y misoedd nesaf yn cynnwys: 30 Hydref Tanio eich Creadigrwydd 27 Tachwedd Mae pawb yn Entrepreneur – dim ond megis dechrau yw hyn 11 Rhagfyr Seiberdroseddu ac Atal Twyll 8 Ionawr Cyfryngau Cymdeithasol, Y Wasg a Sut i Roi Cyhoeddusrwydd i’ch Busnes 22 Ionawr Meithrin Tîm Dywedodd y Cynghorydd Derek Butler, yr Aelod Cabinet dros Ddatblygu Economaidd: “Maer clwb yn lle gwych i bobl gael cymorth i ddatblygu syniadau busnes newydd neu gael cefnogaeth wrth sefydlu busnes newydd. Mae gweithdai rhagorol i’w cael am ddim yn ogystal â chyfleoedd gwych i farchnata eich busnes, felly byddwn yn annog unrhyw un syn teimlo y byddai hyn o fudd iddyn nhw i fynychu. Am fwy o wybodaeth ynglyn â’r clwb, cysylltwch â Beverly Moseley ar 01244 846090.