Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Gwahoddiadau ar gyfer Taith Gyfnewid Ieuenctid Siapan

Published: 21/10/2015

Mae myfyrwyr sydd â diddordeb mewn ymuno â thaith gyfnewid i Siapan yn cael eu gwahodd i fynychu digwyddiad gwybodaeth yng Nghyngor Sir y Fflint. Mae’r Cyngor yn cydgysylltu Taith Gyfnewid Ieuenctid Siapan ac mae’n chwilio am ymgeiswyr nawr ar gyfer rhaglen 2016. Mae chwech lle ar gael bob blwyddyn a gofynnir i deuluoedd y myfyrwyr westeio ymwelydd o Siapan am bythefnos ar ddechrau’r gwyliau haf cyn i fyfyrwyr Sir y Fflint ddychwelyd i Siapan. Mae’r daith ar agor i bobl ifanc sydd rhwng 16 ac 18 oed ar 1 Medi 2015, mewn addysg lawn amser yn Sir y Fflint neu mewn addysg lawn amser ac yn byw yn Sir y Fflint. Gwahoddir myfyrwyr a’u teuluoedd sydd â diddordeb yn y daith gyfnewid i ddigwyddiad yn Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir am 6.30pm nos Lun 2 Tachwedd i ganfod mwy. Yn ystod y noson hon bydd cyflwyniad gan fyfyrwyr a aeth ar y daith gyfnewid eleni a fydd sôn am eu profiadau a’r hyn y gwnaethant ei elwa. Meddai’r Cynghorydd Chris Bithell, Aelod Cabinet dros Addysg: “Mae’r daith gyfnewid hon yn gyfle arbennig i bobl ifanc o Sir y Fflint i weld diwylliant gwahanol, byw gyda theuluoedd lleol a gwneud ffrindiau oes ac mae’n darparu profiad cyfoethog tebyg i fyfyrwyr o Siapan i ymweld â’n gwlad ni.” Am fwy o wybodaeth neu ffurflenni cais, cysylltwch â Beth Ditson, Cydgysylltydd Taith Gyfnewid Ieuenctid Siapan ar 07786 523 601 neu Paula Jones ar 01352 704400 neu e-bostiwch beth.ditson@flintshire.gov.uk