Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Agoriad swyddogol Sgwâr Daniel Owen

Published: 20/10/2015

Bydd y Sgwâr Daniel Owen sydd newydd ei ailddatblygu yn yr Wyddgrug yn agor yn swyddogol ddydd Iau 22 Hydref fel rhan o’r dathliadau Gwyl Daniel Owen blynyddol. Bydd y digwyddiad yn cynnwys seremoni agoriadol, ynghyd â cherddoriaeth, dawnsio, darlleniadau a chladdu capsiwl amser, sydd wedi cael ei wneud gan brentisiaid yn Airbus, gan ddefnyddio tiwb titaniwm or system tanwydd oddi ar awyren A380. Ar ôl y cysyniad cychwynnol i ailddatblygu Sgwâr Daniel Owen, cafwyd ymgynghoriad cyhoeddus gan Bartneriaeth Tref yr Wyddgrug yn 2009. Ar y pryd, defnyddiwyd y sgwâr ar gyfer y farchnad ar ddydd Mercher a dydd Sadwrn, ond am weddill yr wythnos roedd yn dawel. Ystyriwyd bod y lle wedi dyddio ac nad oedd ei botensial llawn wedi ei wireddu. Drwy ffurfio cynllun gweithredu ar gyfer y dref, daeth y prosiect yn un or prif flaenoriaethau. Gan ystyried sylwadau or ymgynghoriad, y ffocws oedd diweddaru’r lle a chreu ardal aml-ddefnydd, a allai gael ei ddefnyddio ar gyfer digwyddiadau a gwahanol berfformiadau yn ogystal â pharhau i gael ei ddefnyddio ar gyfer y farchnad lwyddiannus. Yn 2012, daeth y cyfle am gyllid, ac yn dilyn llawer o waith dylunio, cynllunio a rheoli prosiect, cafodd cyfleuster newydd ei ddatblygu i bawb ei fwynhau. Maer prosiect wedi ei ariannu’n rhannol gan Gyngor Sir y Fflint, Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop a Chynllun Datblygu Gwledig Cymru 2007-2013, syn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig. Dywedodd y Cynghorydd Derek Butler, Aelod Cabinet Datblygu Economaidd Cyngor Sir y Fflint: “Mae’r gwaith i ailddatblygu Sgwâr Daniel Owen wedi bod yn gyfle gwych i wella’r ardal hon yng nghanol y dref. Mae cael cyllid yn ystod cyfnod economaidd mor anodd yn cael ei werthfawrogi’n fawr. Rydym wedi gallu creu gofod aml-ddefnydd o ansawdd uchel i bawb ei fwynhau, a fydd hefyd yn helpu i gynnal bywiogrwydd a hyfywedd y dref. Bellach, mae gan bobl yr Wyddgrug sgwâr y dref y gallant fod yn falch ohono. Rwyf wrth fy modd gyda’r canlyniad terfynol.” Dywedodd y Dirprwy Weinidog dros Ffermio a Bwyd, Rebecca Evans AC: Rydym yn falch o fod wedi cefnogi menter fel hyn drwy Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig, gan roi cyfleoedd gwych i ddatblygu cymunedau gwledig ar draws Cymru. Yn ystod yr wythnos hon, mae rhaglen o lenyddiaeth, cerddoriaeth, llefaru, perfformiadau byw a chelfyddydau yn digwydd yn y dref ar ardal gyfagos fel rhan o Wyl Daniel Owen, sydd bellach yn ei chweched flwyddyn. Maer Wyl yn dathlu bywyd a gwaith mab enwocaf y dref, nofelydd Fictoraidd a aeth o dlodi i boblogrwydd ac enwogrwydd cenedlaethol yn ystod ei fywyd ei hun. Mae rhaglen yr Wyl yn rhedeg drwyr wythnos tan Ddydd Gwener 23 Hydref. I weld y rhaglen lawn, ewch i www.danielowenfestival.com neu ddilyn twitter @DanielOwen1836. Mae tocynnau ar gael o Lyfrgell yr Wyddgrug 01352 754791. Nodyn i Olygyddion Fech gwahoddir i anfon ffotograffydd i ddigwyddiad yr agoriad swyddogol a fydd yn dechrau am 10.30am ddydd Iau 22 Hydref. I gael rhagor o wybodaeth am yr Wyl, cysylltwch â Kevin Matthias ar 01352 754903 neu Nia Jones ar 01352 754791.